Rydym yn recriwtio: Rheolwr Prosiect Mentora
Mae RhCM Cymru am benodi Rheolwr Prosiect Mentora i ymuno â’n tîm!
Mae’r rhaglen fentora ‘Pŵer Cyfwerth Llais Cyfwerth’ yn rhaglen bartneriaeth newydd gyffrous sydd â’r potensial i drawsnewid bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y prosiect yn recriwtio ac yn mentora menywod amrywiol, pobl BAME, pobl anabl, a phobl LGBT i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, sefyll am swydd yn y maes gwleidyddol, gwasanaethu ar fyrddau cyhoeddus, byrddau elusennol neu fel llywodraethwyr ysgol. Mae ganddi’r grym i drawsnewid cymdeithas Cymru drwy gefnogi pobl amrywiol i ddod i bŵer fel bod ein sefydliadau gwleidyddol a chyhoeddus yn adlewyrchu dinasyddion amrywiol Cymru’n well.
Nod y rôl hon yw rheoli holl agweddau y cynllun mentora yn ogystal â phedwar swyddog monitor prosiect ar draws ein sefydliadau partner. Byddwch hefyd yn cefnogi recriwtio mentoriaid a’r rhai sydd am gael eu mentora, ymgysylltu ag arianwyr, adrodd yn ôl iddynt, a sicrhau ein bod yn bodloni’n targedau.
Mae’r rhaglen yn adeiladu ar raglenni mentora llwyddiannus blaenorol a gynhelir gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) a RhCM Cymru a’r nod yw i sicrhau, yn y dyfodol, y bydd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gwleidyddion, a’r llywodraeth yn adlewyrchu ein cymdeithas fwyfwy amrywiol yn well. Bydd hyn yn lleihau’r tebygolrwydd o effaith negyddol anghymesur ar unrhyw bandemig yn y dyfodol ar grwpiau sy’n cael nodweddion gwarchodedig. Rydym ni, gyda’n partneriaid Anabledd Cymru, EYST, a Stonewall Cymru, am fod yn rhan o ymdrechion nid yn unig i adeiladu’n ôl yn well ond yn decach.
Gyda record brofedig o reoli prosiectau, byddwch yn ddeinamig, yn drefnus ac yn meddu ar rwydwaith cryf ledled Cymru. Byddwch ag ysgogiad, yn gallu gweithio ar eich menter eich hun ac yn barod i ymuno â thîm o ffeministiaid sy’n perfformio’n uchel ond yn llawn hwyl sydd oll yn ymrwymedig i gydraddoldeb.
Rydym yn croesawu yn enwedig ymgeiswyr Du, Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig (BAME) ac ymgeiswyr anabl, sydd wedi’u tangynrychioli ar ein staff ar hyn o bryd.
Siaradwr Cymraeg: Dymunol
Cyflog: £30,451
Amser llawn: 37.5 awr yr wythnos
Tymor Penodol tan Mehefin 2024
Sut i ymgeisio
I ymgeisio, lawrlwythwch y Pecyn Swydd a Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal.