Staff RhCM Cymru
Mae ein tîm bach yn gweithio o gartref ac maent ar gael i siarad mewn digwyddiadau ar gais.
-
Anna Brown
Prif Swyddog GweithredolMae gan Anna fwy nag 20 mlynedd o brofiad ar draws arweinyddiaeth elusennol, datblygu rhyngwladol a chyllid, gyda hanes cryf o arweinyddiaeth strategol, adeiladu partneriaethau ac eiriolaeth cyfiawnder cymdeithasol. Cyn ymuno â RhCM Cymru, roedd Anna yn Brif Swyddog Weithredol ar y Cyd ar gyfer elusen cyfiawnder cymdeithasol Talking Money, sydd wedi’i lleoli ym Mryste, lle bu’n arwain datblygiad sefydliadol ac yn cryfhau effaith yr elusen ar gefnogi pobl sy’n profi caledi ariannol.
Yn wreiddiol o Gymru ac yn awr wedi’i lleoli yn Sir Benfro, mae Anna’n angerddol am hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd a sicrhau bod lleisiau menywod yn llunio polisi a gwneud penderfyniadau.
-
Annmarie Brown
Rheolwr RhaglenniMae Annmarie yn arwain y cydlynu ac yn cefnogi darpariaeth strategol rhaglenni RhCM, gan gynnwys y rhaglen fentora a hyfforddi traws-gydraddoldeb Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal. Mae hi’n gweithio mewn cydweithrediad agos â phartneriaid cenedlaethol i hyrwyddo cynrychiolaeth amrywiol ar draws bywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru. Gyda chefndir yn y trydydd sector, addysg ac eiriolaeth, mae gan Annmarie brofiad mewn cydraddoldeb rhywedd, cyd-gynhyrchu a dylunio rhaglenni cynhwysol. Mae hi wedi cefnogi darpariaeth lwyddiannus rhaglenni cymhleth, aml-bartner, gan gydbwyso cynllunio strategol â goruchwyliaeth weithredol ac ymrwymiad i ddysgu a gwelliant parhaus. Mae ei gwaith wedi’i seilio ar ymrwymiad cryf i degwch a chyfiawnder cymdeithasol.
-
Dr Jessica Laimann
Rheolwr Polisi a Materion CyhoeddusMae Jessica yn arwain ar waith polisi RhCM ac yn cydlynu gwaith ymgyrchu a dylanwadu mewn partneriaeth â’n haelodau. Mae ganddi brofiad polisi mewn llywodraeth ddatganoledig a lleol ynghyd â chefndir ymchwil cryf. Cyn dechrau yn RhCM, bu’n cydlynu gwaith partneriaeth awdurdodau lleol rhanbarthol a Chymru gyfan, cwblhaodd leoliad yng Ngwasanaeth Ymchwil y Senedd, ac enillodd PhD mewn athroniaeth. Mae hi’n frwd dros yrru newid sy’n darparu cyfle cyfartal ac awdurdod i bob merch yng Nghymru.
-
Megan Evans
Rheolwr Cyfathrebu ac YmgysylltuMae Megan yn arwain ar gyfathrebu ein gwaith ar draws pob rhaglen ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ein haelodau. Mae hi wedi gweithio yn y sector cydraddoldeb ers 10 mlynedd, gan reoli a chyflawni cyfathrebu strategol effeithiol ar gyfer prosiectau mawr ar draws disgyblaethau. Mae hi’n angerddol am gydraddoldeb rhywedd, ffeministiaeth groestoriadol, hawliau LHDT, a chyfiawnder hiliol, ac mae ganddi MA o Brifysgol Lyon.