Ann Griffiths
Ganwyd y bardd Ann Griffiths ym Mhowys, a hi yw emynyddes amlycaf Cymru. Bu farw ar ôl geni plentyn yn 29 mlwydd oed, gan adael llond llaw o benillion, gan gynnwys Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd sy’n un o emynau mawr Cymru. Perfformiwyd sioe gerdd am ei bywyd yn Eisteddfod Genedlaethol 2003, ac fe’i darlledwyd ar y teledu a’i rhyddhau ar CD.