Pecyn Cymorth Cynrychiolaeth Amrywiol a Chyfartal newydd wedi’i lansio

Thursday May 1, 2025
Diverse5050 Toolkit

Mae RhCM Cymru wrth ei fodd i gyflwyno Pecyn Cymorth Cynrychiolaeth Amrywiol a Chyfartal Diverse5050, sydd wedi’i gynllunio i helpu pleidiau gwleidyddol i ddod yn lleoedd lle mae pobl o unrhyw rywedd, nodwedd warchodedig, a chymunedau sydd wedi’u hymylu yn teimlo’n gartrefol ac yn gallu llwyddo.

Mae’r pecyn cymorth wedi’i rannu’n dair rhan:

Diwylliant plaid: tynnu sylw at bwysigrwydd polisïau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, digwyddiadau a gweithgareddau cynhwysol, negeseua a chyfathrebu, a chasglu data.

Denu ac adnabod talent amrywiol: gan gynnwys gwybodaeth ac allgymorth, asesu ymgeiswyr a dewis ymgeiswyr.

Meithrin a chefnogi talent amrywiol: yn ymdrin â phynciau fel hyfforddiant a datblygiad, mentora a chefnogaeth gan gymheiriaid, cymorth ariannol, ac amddiffyniad rhag aflonyddu a cham-drin.

Ewch ar daith o amgylch y pecyn cymorth ac archwiliwch y tair rhan ar-lein yma, neu lawrlwythwch y pecyn cymorth cyflawn yma.