Diweddariad ymgyrch: cydraddoldeb rhywedd wedi’i godi yn y Senedd

Tuesday October 27, 2026

Mis diwethaf, lansiwyd ein llythyr templed cyntaf erioed i Aelodau’r Senedd. Ers hynny, rydym wedi bod wrth ein bodd yn gweld cydraddoldeb rhywedd yn cael ei godi yn y Senedd ar sawl achlysur yn dilyn toriad yr haf.

Diolch enfawr i bawb sydd wedi ymuno â’r ymgyrch ac wedi anfon neges at eu ASau sydd newydd gael eu hethol. Rydym wrth ein bodd yn gweld bod bron i 100 o negeseuon e-bost wedi’u hanfon eisoes – canlyniad gwych!

Diolch i’r negeseuon hyn, rydym wedi gweld cydraddoldeb rhywedd yn cael ei godi’n amlach yn y Senedd, gan ein helpu i hyrwyddo swyddi gwell eu tâl i fenywod, yn ogystal â gofal plant mwy hyblyg a fforddiadwy.

Hyd yn hyn rydym wedi gweld:

Mae ein hymgyrchu yn dwyn ffrwyth. Mae pob e-bost a anfonir at Aelodau’r Senedd yn helpu i godi statws cydraddoldeb rhywedd ar y rhestr o flaenoriaethau gwleidyddol, ac yn ein symud yn nes at newid. Mae’n dangos sut y gall pobl gyffredin ddylanwadu ar wleidyddion, sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed gan bobl mewn grym, a sicrhau newid.

Yn benodol, roeddem yn falch o weld yr ymrwymiad gan y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, i’r egwyddor y dylai rhieni allu cael mynediad hyblyg at eu hawliau gofal plant. Mae hwn yn gam mawr ymlaen.

Fodd bynnag, mae llawer iawn i’w wneud o hyd.

Fel y dangosodd ein hadroddiad diweddar ar Gyflwr y Genedl, mae cynnydd o ran cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru wedi arafu. Mae’r bwlch cyflog rhywedd wedi ehangu, mae cyfraddau cyflogaeth ymhlith menywod wedi gostwng, mae cynrychiolaeth wleidyddol yn parhau i fod yn fregus, ac mae trais yn erbyn menywod a merched yn broblem eang. Mewn sawl ffordd, mae sefyllfa menywod yng Nghymru yn waeth nag yr oedd ychydig flynyddoedd yn ôl.

Dim ond y dechrau yw’r ymgyrch hon o ysgrifennu llythyrau. Cadwch lygad am ffordd newydd o gymryd rhan yn ein gwaith yn y dyfodol agos…