E-bostiwch eich AS ynghylch cydraddoldeb rhywedd

Mae cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru ar groesffordd.
Mae ein hadroddiad diweddaraf ar Gyflwr y Genedl yn dangos bod tlodi menywod ar gynnydd eto, y bwlch cyflog rhywedd wedi ehangu, a thrais ar sail rhywedd ar lefel argyfyngus.
Er gwaethaf blynyddoedd o ymrwymiadau a mentrau, ychydig iawn o welliannau sydd wedi bod i fywydau bob dydd menywod ledled Cymru ers yr adroddiad Cyflwr y Genedl cyntaf yn 2018 – gyda menywod o gymunedau ymylol yn wynebu’r anghydraddoldeb gwaethaf.
Mae’n bryd mynnu newid.
Defnyddiwch y templed yma i anfon e-bost at eich Aelodau newydd o’r Senedd (ASau), a gofynnwch iddynt godi cydraddoldeb rhywedd yn uwch ar yr agenda.
Oherwydd y system bleidleisio newydd a ddefnyddiwyd yn etholiad diweddaraf y Senedd, mae gennych bellach 6 AS lleol ar gyfer eich ardal. Bydd y templed hwn yn anfon e-bost at bob un ohonynt yn awtomatig. Byddwch yn cael cyfle i wneud yr e-bost terfynol yn fwy personol cyn iddo gael ei anfon.
Rhowch eich cod post isod i ddechrau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon e-bost atom yn admin@wenwales.org.uk.