Anfonwch neges at eich Aelodau Seneddol Newydd yn galw am gydraddoldeb rhywedd

Wednesday September 16, 2026
Graffeg sy'n darllen: Rhowch gydraddoldeb rhywedd wrth wraidd y Senedd newydd.

Helpwch ni i roi cydraddoldeb rhywedd ar agenda’r Senedd newydd 📣 

Wrth i ASau ddychwelyd i’r Senedd yn dilyn toriad yr haf, rydym wedi creu ffordd newydd o ymuno â’n hymgyrch drwy anfon e-bost at eich Aelodau o’r Senedd.

Mae tlodi menywod ar gynnydd, mae’r bwlch cyflog rhywedd wedi ehangu, ac mae trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i fod ar lefelau argyfwng.

I’ch helpu i ymladd dros Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd, rydym wedi creu templed e-bost syml i’w anfon at eich Aelodau Seneddol newydd.

Dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd, a bydd yn ein helpu i godi cydraddoldeb rhywedd i fyny rhestr flaenoriaeth y Senedd newydd.

Er gwaethaf blynyddoedd o ymrwymiadau a mentrau, dim ond ychydig iawn o welliannau sydd wedi bod i fywydau bob dydd menywod ledled Cymru ers 2018 – gyda menywod o gymunedau ymylol yn wynebu’r anghydraddoldebau gwaethaf. 

Canfu ein hadroddiad fod:

  • Y bwlch cyflog rhywedd yng Nghymru wedi cynyddu i 9.7%, gyda gwahaniaethau lleol sylweddol. 
  • Dros 80% o achosion o ymosodiadau rhywiol, a bron i dri chwarter o droseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, yn cael eu cyflawni yn erbyn menywod.
  • Cynrychiolaeth mewn arweinyddiaeth yn parhau i fod yn fregus – er bod 46% o aelodau’r Senedd bellach yn fenywod, mae hyn yn dibynnu ar fentrau  gwirfoddol gan y pleidiau ac yn amrywio’n fawr ar draws y pleidiau

Mae cydraddoldeb menywod yng Nghymru ar groesffordd.

Mae gan Lywodraeth newydd Cymru gyfle sylweddol i ymateb i’r heriau, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, a gwneud Cymru’n arweinydd byd-eang o ran cydraddoldeb rhywedd.

Helpwch ni i gael cydraddoldeb rhywedd ar agenda’r Senedd newydd.