Augusta Hall
Yn y Fenni y ganwyd yr aeres Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, ac roedd yn fwyaf adnabyddus fel noddwraig i’r celfyddydau yng Nghymru. Helpodd i sefydlu Y Gymraes, y cyfnodolyn cyntaf yn Gymraeg i fenywod, ariannodd waith i lunio geiriadur Cymraeg ac enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod 1834 am ei thraethawd The Advantages resulting from the Preservation of the Welsh language and National Costume of Wales.