Rhwydwaith Rhywedd
Mae’r Rhwydwaith Rhywedd yn fforwm polisi o 80 o gynrychiolwyr y trydydd sector, ymgyrchwyr ac academyddion sy’n ymladd dros hawliau menywod yng Nghymru, a weinyddir gan RhCM Cymru.
Ariennir RhCM Cymru gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i redeg y Rhwydwaith Rhywedd hwn, fel rhan o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC). Mae’r grŵp yn cyfarfod bob chwarter, a dosberthir gwybodaeth i’r rhwydwaith yn wythnosol.
Rydym yn rhannu gwybodaeth, yn diweddaru ein gilydd ar ein gwaith ac yn llunio polisïau ar y cyd oherwydd gyda’n gilydd rydym yn gryfach. Yn ddiweddar mae’r Rhwydwaith Rhywedd wedi cyhoeddi ei Faniffesto Hawliau Menywod Cymru ar gyfer etholiadau’r Senedd ym Mai 2026 ac yn galw ar bob plaid wleidyddol i roi cydraddoldeb rhywedd wrth wraidd yr etholiad.
Fe wnaethon ni gyhoeddi maniffestos ar y cyd yn flaenorol cyn etholiadau’r Senedd yn 2021 ac Etholiad Cyffredinol y DU yn 2024. Mae ein gwaith hefyd wedi tynnu sylw’r Weinidogion a Phwyllgorau perthnasol at effaith costau byw cynyddol ar fenywod sy’n profi gwahaniaethu croestoriadol, profiad menywod o leiafrifoedd ethnig yn y carchar, a mwy. Fe wnaethom ddarparu cyfleoedd hyfforddi ar ddeddfwriaeth hawliau dynol ac ymgysylltu â phwyllgorau, a galw’n llwyddiannus am Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol penodedig yn dilyn etholiadau’r Senedd yn 2021.
I ddod yn aelod o’r Rhwydwaith Rhywedd, mae angen i chi fod yn aelod o RhCM Cymru – ymunwch â ni fan hyn. Unwaith y byddwch yn aelod o RhCM Cymru, e-bostiwch admin@wenwales.org.uk i ymuno â’r Rhwydwaith Rhywedd.