Ymuno â ni

Mae gan RhCM Cymru dros 1,000 o aelodau gwerthfawr sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r frwydr dros Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu rhwng y rhywiau. Mae cefnogwyr yn cynnwys elusennau, busnesau ac awdurdodau lleol yn ogystal ag unigolion sydd am weithio mewn clymblaid gyda ni i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Pam ymuno â RhCM Cymru?
Ydych chi’n credu mewn:
- atal trais yn erbyn menywod?
- sicrhau cynrychiolaeth gyfartal ym mhob agwedd ar fywyd?
- yr hawl gyfartal i iechyd?
- cyllid teg i bawb?
- gwaith gofal sy’n cael ei werthfawrogi a’i rannu?
- Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang?
Yna ymunwch â ni, oherwydd gyda’n gilydd mewn clymblaid, gallwn wneud iddo ddigwydd.
Pan fyddwch yn ymuno, byddwch hefyd yn cael amrywiaeth eang o fuddiannau gwych sy’n eich cefnogi chi a’ch sefydliad a byddwn yn hyrwyddo eich gwaith.
Mae buddiannau aelodaeth yn cynnwys:
Cysylltu
- Rhan o rwydwaith aelodaeth amrywiol a bywiog iawn lle gallwn eich cysylltu ag eraill, drwy ein digwyddiadau gwib-rwydweithio
- Rhoi eich swyddi gwag, digwyddiadau a newyddion yn ein cylchlythyr misol
- Cael eich rhestru fel aelod sefydliadol ar ein gwefan
- Cyfle i fod yn bartner gyda ni ar ein hymgyrchoedd gwaith polisi
Dylanwadu
- Cyfrannu’n uniongyrchol at ddylanwadu ar drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, llunio polisïau a’u rhoi ar waith
Cyngor a chefnogaeth
- Derbyn ein cylchlythyr misol sy’n llawn o newyddion a digwyddiadau ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau
- Mynediad at ein hadroddiadau a’n hymchwil yn ogystal â’n tîm arbenigol
Digwyddiadau
- Cael blaenoriaeth i gadw lle mewn digwyddiadau a lansiadau
- Gwahoddiad a phleidlais yn ein CCB blynyddol