Maniffesto Hawliau Menywod Cymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU
Tuesday December 5, 2023
Mae’r Rhwydwaith Rhywedd, sef fforwm o 80 o gynrychiolwyr cymdeithas sifil, actifyddion ac academyddion sy’n brwydro dros gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru, wedi lansio Maniffesto Hawliau Menywod Cymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU heddiw. Mae’r Rhwydwaith Rhywedd yn galw ar bob plaid wleidyddol ac ymgeisydd i roi cydraddoldeb rhywedd wrth galon yr etholiad a llunio polisïau’r DU. Mae’r maniffesto yn ymdrin â chwe maes lle mae angen gweithredu i amddiffyn a hyrwyddo hawliau menywod yng Nghymru.