Chwaraeon

Illustration of Tanni Grey-Thompson by Molly Allen

Tanni Grey-Thompson

Chwaraeon Hawliau Anabledd

Arferai chwaer hŷn Carys Davina Grey-Thompson, Sian, ei galw’n “Tiny” pan oedd yn ifanc, a dyna sut y daeth yn “Tanni”. Roedd wrth ei bodd â chwaraeon wrth dyfu i fyny, ac wedi i’w rhieni frwydro’n llwyddiannus i’w chadw mewn addysg brif ffrwd, dechreuodd Grey-Thompson rasio cadair olwyn yn 13 oed, ac ennill teitl y gystadleuaeth Iau Genedlaethol bedair blynedd yn ddiweddarach. Enillodd ei medal Baralympaidd gyntaf yn 19 oed, pan enillodd fedal efydd yng Ngemau Seoul yn 1988; byddai’n mynd ymlaen i ennill 11 medal aur a 3 medal arian, a thorri 30 record byd. Mae’n gyflwynydd teledu, yn aelod o fyrddau sawl sefydliad chwaraeon gan gynnwys Marathon Llundain a Sportsaid, a daeth yn aelod Annibynnol Trawsfeinciol o Dŷ’r Arglwyddi yn 2010.

Illustration of Nicole Cooke by Molly Allen

Nicole Cooke

Chwaraeon

Wedi’i geni yn Abertawe a’i magu ym Mro Morgannwg, cwympodd Nicole Denise Cooke mewn cariad â beicio tra oedd ar wyliau teuluol, ac mae’r canlyniadau’n drawiadol. Yn 16 oed, enillodd ras ffordd Elite, y person ieuengaf erioed i ennill pencampwriaeth Brydeinig i seiclwyr hŷn, ac yn 20 oed enillodd Gwpan y Byd. Yn 24 oed, hi oedd y person cyntaf i ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd a Chwpan y Byd mewn cystadlaethau beicio, a chafodd MBE yn 2009. Roedd yn llafar ei beirniadaeth o rywiaeth a chyffuriau yn ei champ. Ymddeolodd o gystadlu yn 2013, a flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddodd ei hunangofiant, The Breakaway, a enwyd yn Llyfr Chwaraeon y Flwyddyn gan y Sunday Times.

Illustration of Non Stanford by Molly Allen

Non Stanford

Chwaraeon

Ers ei eni, magwyd Non wedi’i amgylchynu gan chwaraeon, ac erbyn wyth oed nododd awydd i gystadlu yn y Gemau Olympaidd un diwrnod. O glwb gymnasteg yn Abertawe, i nofio ac i redeg, archwiliodd Non ei hangerdd am chwaraeon trwy lawer o’i chlybiau cartref lleol. Pan oedd hi’n 19 oed, y Triathlon aeth a hi, ac aeth yn gyflym o driathletwr amatur i Bencampwr Elît y Byd mewn pum mlynedd.

Non oedd y fenyw gyntaf erioed i ennill teitl Dan 23 y Byd (2012) a theitl Elît Hŷn (2013) mewn blynyddoedd yn olynol ac mae’n dal i fod yn un o ddim ond dau athletwr yn y Byd, gwryw a benyw, i gyflawni’r gamp honno erioed. O’r diwedd, cyflawnodd ei huchelgais Olympaidd yn 2016 lle gorffennodd yn 4ydd yng Ngemau Rio. Yng Ngemau’r Gymanwlad 2018, bu Non yn gapten ar dîm Cymru yn ei Gemau mwyaf llwyddiannus erioed.

Illustration of Kirsty Wade by Molly Allen

Kirsty Wade

Chwaraeon

Magwyd Kirsty Wade yn Llandrindod, ac mae wedi ennill medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad dair gwaith. Enillodd y ras 800 metr yn Brisbane yn 1982, a’r rasys 800 metr a’r 1500 metr yng Nghaeredin yn 1986, y fenyw gyntaf erioed i gyflawni’r dwbl hanesyddol hwnnw. Mae hefyd wedi torri recordiau Prydeinig yn yr 800m a’r filltir, a hi sy’n dal record Cymru yn y ddau bellter o hyd. Ers 2015 hi yw’r ail ar restr athletwyr bob cyfnod y DU yn y cystadlaethau 800 a 1500 metr y tu ôl i’r Fonesig Kelly Holmes. Bu’n cludo’r ffagl Olympaidd yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, ac mae bellach yn byw yn Ynys Lewis yn yr Alban gyda’i gŵr a’i thri o blant, lle mae wedi ei chanmol am ei gwaith i ddatblygu chwaraeon cymunedol.

Illustration of Jade Jones by Molly Allen

Jade Jones

Chwaraeon

Cyflwynodd tad-cu Jade Louise Jones taekwondo iddi yn wyth oed yn Sir Ddinbych, a dechreuodd ymarfer y gamp yn llawn amser yn 16 mlwydd oed. Gwta flwyddyn yn ddiweddarach, enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop, a medal aur yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, curodd Hou Yuzhou o Tsieina i ennill medal aur Olympaidd, y person cyntaf erioed o Brydain i wneud hynny yn ei disgyblaeth. Cafodd MBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2013 am ei gwasanaeth i’w champ, ac enillodd fedal aur Olympaidd eto yn 2016, yn erbyn Eva Calvo o Sbaen.

Illustration of Hannah Mills by Molly Allen

Hannah Mills

Chwaraeon

Yn wyth mlwydd oed, dechreuodd Hannah Mills hwylio yng Nghanolfan Hwylio Llanisien yng Nghaerdydd, ei dinas enedigol, ar ôl cael blas ar y gamp ar wyliau teuluol yng Nghernyw. Enillodd ei medal aur gyntaf yn 2012 ym Mhencampwriaethau Byd 470, ac enillodd fedal arian yn y Gemau Olympaidd gyda Saskia Clark yr haf hwnnw hefyd. Bedair blynedd yn ddiweddarach, enillodd y ddwy eto yng Ngemau Olympaidd Rio, er gwaetha’r profiad ofnadwy o gael eu bygwth â chyllell a chael rhywun yn dwyn oddi arnynt yn y ddinas tra oeddent yn hyfforddi. Enillodd Mills wobr Hwylwraig Ryngwladol y Flwyddyn yn 2016, a chafodd MBE yn rhestr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2017.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen