Rydym yn recriwtio Swyddog Polisi ac Ymchwil
Swyddog Polisi ac Ymchwil
- Lleoliad: Gweithio o bell / Swyddfa yng Nghaerdydd / Hybrid
- Cyflog: £26 – 30k (pro rata)
- Oriau gweithio: 22.5 awr (60%) neu 30 awr (80%) yr wythnos (yn amodol ar gyllid)
- Math o gontract: Cyfnod penodol o 1 flwyddyn gyda’r potensial i ymestyn
- Gweithio hyblyg
AM RHWYDWAITH CYDRADDOLDEB MENYWOD (RhCM) CYMRU
RhCM Cymru yw prif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru. Ein gweledigaeth yw Cymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd, lle mae gan bawb gyfle ac awdurdod cyfartal i lywio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.
Fel sefydliad aelodaeth, rydym yn gweithio mewn clymblaid â’n haelodau sefydliadol ac unigol trwy cysylltu, ymgyrchu a hyrwyddo menywod i wireddu ein gweledigaeth.
AM Y RÔL
Mae’r rôl yn ymwneud ag ymchwilio i’r rhwystrau i gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru, datblygu ein hargymhellion polisi ar eu cyfer, ac yna ddefnyddio’r dystiolaeth i eirioli a dylanwadu, gan sicrhau bod ein gwaith yn cael effaith wirioneddol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol hanes o ymchwilio a drafftio darnau ysgrifenedig effeithiol ar gyfer cynulleidfa polisi, a hynny’n ddelfrydol yng nghyd-destun polisi yng Nghymru neu yn y trydydd sector. Byddwch yn gwybod sut i nodi a meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol a bydd gennych ymwybyddiaeth wleidyddol gadarn, ynghyd â’r gallu i feddwl yn strategol. At hynny, bydd arnoch angen llygad craff am fanylion a sgiliau hunanreoli rhagorol, gyda’r gallu i flaenoriaethu disgwyliadau gwrthgyferbyniol mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym.
Rydym yn croesawu’n benodol geisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad bywyd o wahaniaethu croestoriadol, gan gynnwys ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Siaradwr Cymraeg: Dymunol
Cliciwch yma i lawrlwytho’r disgrifiad swydd llawn a’r cyfarwyddiadau ymgeisio.
Dyddiad cau: 28 Gorffennaf 2024 am 5yp
Ariennir y rôl hon yn rhannol gan Ymddiriedolaeth Diwygio Joseph Rowntree (JRRT).