Ymunwch â’r tîm: Prif Swyddog Gweithredol

Tuesday September 16, 2025

Mae RhCM Cymru am recriwtio Prif Swyddog Gweithredol newydd i oruchwylio cam cyffrous nesaf ein datblygiad fel elusen aelodaeth, gan ymgyrchu dros hawliau a chydraddoldeb menywod yng Nghymru a’u hyrwyddo.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf rydym wedi mwy na dyblu ein hincwm, datblygu cynllun strategol uchelgeisiol ac wedi cynnal ymgyrchoedd effeithiol. Nawr rydym am gymryd y cam nesaf ar ein taith i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd gyda Phrif Swyddog Gweithredol newydd wrth y llyw.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda thîm bach ac ymroddedig ar ystod eang o brosiectau cyffrous ac arloesol, gan gynnwys:

  • rhaglen fentora arobryn, Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal
  • ymgyrch lwyddiannus 5050Amrywiol
  • ein Cerdyn Sgorio Ffeministaidd
  • ein hadroddiad Cyflwr y Genedl
  • ein hymgyrch gofal plant
  • menter 100 Menywod Cymreig

Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd:

  • yn llawn ysgogiad, yn llawn cymhelliant, ac wedi ymrwymo’n ddwfn i adeiladu Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd
  • yn dod ag arweinyddiaeth gynhwysol ac ysbrydoledig, gyda gallu profedig i arwain a grymuso timau
  • ganddynt ddealltwriaeth gref o sut i ddatblygu polisi meddylgar, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac eirioli drosto’n effeithiol
  • yn gyfathrebydd a rhwydweithydd medrus, sy’n gallu ymgysylltu’n hyderus ar draws cynulleidfaoedd amrywiol
  • yn rhagori ar feithrin a chynnal partneriaethau strategol gyda sefydliadau eraill.

Darllenwch y Disgrifiad Swydd llawn yma.

Ddiddordeb? Gwnewch gais drwy anfon eich CV a llythyr eglurhaol o ddim mwy na dwy ochr A4 at recruitment@wenwales.org.uk yn amlinellu:

  • sut mae eich sgiliau a’ch profiad yn cyd-fynd â’r rôl
  • y cyfraniad rydych chi’n credu y gallwch ei wneud i gyflawni ein gweledigaeth

Dyddiad cau: Dydd Gwener 17 Hydref, 6pm Cyfweliadau yr wythnos yn dechrau 27 Hydref.

Os hoffech siarad â ni am y swydd, anfonwch e-bost at recruitment@wenwales.org.uk a byddwn yn trefnu sgwrs anffurfiol.