Ymunwch â’r Tîm: Cydlynydd Rhaglen
*Mae ceisiadau am y rôl hon wedi cau*
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn trefnus, cydweithredol ymuno â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru fel Cydlynydd Rhaglen ar gyfer rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal (PCLlC)
Dysgwch fwy am PCLlC a’r rôl isod, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am ofynion a chyfrifoldebau mewn PDF y gellir ei lawrlwytho.
YNGLŶN Â ‘PŴER CYFARTAL LLAIS CYFARTAL’
Mae’r rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal (PCLlC) yn rhoi cyfleoedd mentora, hyfforddi a rhwydweithio gyda chymheiriaid i bobl o leiafrifoedd ethnig, pobl LHDTC+, pobl anabl, menywod a phobl sydd ag unrhyw gyfuniad o’r hunaniaethau hyn ledled Cymru. Mae hon yn rhaglen bwysig ac unigryw sy’n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth gref a sefydledig gydag Anabledd Cymru, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), Stonewall Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru.
Nod rhaglen PCLlC yw sicrhau cynrychiolaeth fwy amrywiol mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus trwy gryfhau gwybodaeth a sgiliau’r rhai sy’n dyheu am fod yno, gan ddysgu a chael cefnogaeth gan y rheiny sydd wedi cyrraedd swyddi â phŵer, dylanwad ac awdurdod yn wyneb yr heriau hyn.
Byddwch yn adeiladu ar lwyddiant cylch y rhaglen PCLlC blaenorol, a gynhaliwyd rhwng 2021-2024. Bydd ymgeiswyr yn dangos brwdfrydedd ac arloesedd i sicrhau bod cylch rhaglen nesaf PCLlC (2025-2028) yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn rhoi’r profiad gorau posibl i’r rhai sy’n cael eu mentora ac i’w mentoriaid, gan greu llwybr uniongyrchol tuag at sicrhau mwy o amrywiaeth mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus yng Nghymru.
Mae’r rhaglen PCLlC yn bosibl trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Rhoddir y cyfarwyddiadau ymgeisio ar gyfer swydd WEN Cymru isod.
YNGLŶN Â’R RÔL
Bydd Cydlynydd y Rhaglen yn gweithio ochr yn ochr â deiliaid swyddi tebyg yn Anabledd Cymru, EYST a Stonewall Cymru, a bydd yn cefnogi Rheolwr Rhaglenni WEN i gyflwyno’r rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal mewn partneriaeth. Byddwch yn arwain y gwaith o recriwtio a chefnogi’r garfan o tua 25 pâr o fentoriaid a rhai sy’n cael eu mentora o’ch sefydliad. Byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Rhaglenni i gyflwyno’r holl ddigwyddiadau o fewn y rhaglen a byddwch yn mynd i ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled Cymru, a thua unwaith y flwyddyn yn Llundain.
Gyda hanes wedi’i brofi o gyflawni prosiectau, byddwch yn ddeinamig, trefnus, yn gyfathrebwr da ac yn gallu cysylltu â phobl i’w helpu i gyflawni eu nodau. Byddwch yn llawn cymhelliant, yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun ac yn barod i ymuno â thîm sy’n perfformio ar lefel uchel ond hefyd yn hwyl ac yn gefnogol ac i gyd yn ymroddedig i weithio at gydraddoldeb.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad bywyd o wahaniaethu croestoriadol. Siaradwr Cymraeg: Dymunol
Lawrlwythwch y fanyleb swydd lawn yma.