Profiad Menywod o’r Daith Wleidyddol yng Nghymru

Y Senedd oedd y ddeddfwrfa gyntaf i gael cydbwysedd rhywedd, a hynny yn 2003, gan dorri tir newydd ar gyfer cynrychiolaeth menywod yn fyd-eang. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, dim ond 43% o’i aelodau sydd yn fenywod. Yn sgil tynnu Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn ôl, mae perygl y gallai’r Senedd nesaf gynnwys y lefel isaf o gynrychiolaeth menywod ers datganoli.

Mae ein adroddiad newydd wedi’i seilio ar gyfres o gyfweliadau un-i-un manwl a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Hydref 2025 â menywod o’r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Fe wnaethom siarad â menywod ar wahanol gamau o’u teithiau gwleidyddol, o’r rhai yng nghamau cynnar eu gyrfa hyd at y rhai mewn swyddi gwleidyddol uwch. Roedd y cyfweliadau yn casglu gwybodaeth am brofiadau yng nghyd-destunau San Steffan, y Senedd, a llywodraeth leol.

Mae ein hadroddiad yn dangos yr heriau sy’n wynebu menywod o hyd, ac mae hefyd yn tynnu sylw at arferion gorau ac atebion ymarferol y gall pleidiau eu mabwysiadu i gefnogi ymgeiswyr benywaidd yn y cyfnod cyn etholiadau 2026 a thu hwnt. Darllenwch yr adroddiad fan hyn.