Gwyddoniaeth, Addysg & 3ydd Sector

Illustration of Emily Penn by Molly Allen

Emily Penn

Gwyddoniaeth, Addysg & 3ydd Sector Twymder Cymdeithasol & Gweithrediad

Wedi’i geni yn Abertawe a’i magu ym Mhenarth, mae Emily Penn yn gweithio’n rhyngwladol i hyrwyddo moroedd glân. Trefnodd yr ymgyrch lanhau gymunedol fwyaf erioed o ynys fechan yn Tonga, mae wedi treillio am ficro-blastigau drwy Lwybr Gogledd Orllewinol yr Arctig, ac wedi mynd o amgylch y blaned ddwywaith yn y cwch bio-danwydd sydd wedi torri record byd, Earthrace. Mae’n rhannu ei hamser rhwng rhedeg eXXpedition – cyfres o deithiau i fenywod yn unig sy’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng plastigau a thocsigau ac iechyd menywod – a gweithio i ddatrys problem plastigau yn ein moroedd gyda Parley for the Oceans a chleientiaid corfforaethol eraill. Hi oedd yr ieuengaf erioed, a’r unig fenyw, i dderbyn gwobrau Hwylfeistr y Flwyddyn a Môr-feistr y Flwyddyn.

Frances Hoggan

Gwyddoniaeth, Addysg & 3ydd Sector Twymder Cymdeithasol & Gweithrediad

Wedi’i geni yn Aberhonddu yn ferch i gurad, aeth Frances Morgan i’r ysgol yn wyth oed, a hi oedd y fenyw gyntaf a hyfforddwyd ym Mhrydain i’w chynnwys ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol 12 mlynedd yn ddiweddarach. Bu’n rhaid iddi frwydro’n gyson i amddiffyn ei lle fel menyw yn ei phroffesiwn, a bu’n ymgyrchu’n frwd i hybu addysg glanweithdra, yn cefnogi hawl menywod i gael y bleidlais ac addysg i ferched yng Nghymru, ac yn ddiweddarach, bu’n cefnogi ymgyrchoedd hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau. Yn 2016 sefydlodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Fedal Frances Hoggan yn wobr flynyddol i gydnabod cyfraniad menywod eithriadol sydd â chysylltiad â Chymru ym meysydd gwyddoniaeth, meddygaeth, peirianneg, technoleg neu fathemateg.

Illustration of Deirdre Beddoe by Molly Allen

Deirdre Beddoe

Gwyddoniaeth, Addysg & 3ydd Sector

Wedi’i geni yn y Barri a’i haddysgu ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, mae Deirdre Beddoe yn hanesydd nodedig ym maes hanes menywod ym Mhrydain fodern, gyda phwyslais penodol ar Gymru. Mae wedi treulio ei bywyd yn ymchwilio i’r ymgyrch i sicrhau’r bleidlais i fenywod, bywydau menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, ac ysgrifennu gan fenywod yn yr ugeinfed ganrif ym Mhrydain. Bu’n weithgar iawn ym mudiad Rhyddid i Fenywod yn yr 1970au, yn aelod o Grŵp Gweithredu Menywod Caerdydd. Trefnodd y gynhadledd gyntaf ar hanes menywod yng Nghymru yn 1983, ac yn 1985 cyfarwyddodd y ffilm I’ll Be Here for All Time gyda Sheila Owen-Jones, ynglŷn â thraddodiad protest menywod yng Nghymru. Yn 2016 cafodd ei rhaglen i’r BBC ar fenywod o Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf ganmoliaeth haeddiannol.

Illustration of Betsi Cadwaladr by Molly Allen

Betsi Cadwaladr

Gwyddoniaeth, Addysg & 3ydd Sector Twymder Cymdeithasol & Gweithrediad

Bu Elizabeth ‘Betsi’ Cadwaladr yn gweithio ochr yn ochr â Florence Nightingale yn y Crimea, ar ôl dechrau ei bywyd yn un o 16 o blant ym mhentref gwledig Llanycil ger y Bala. Bu farw ei mam pan oedd Betsi’n 5 oed. Roedd ganddi anian wrthryfelgar, a daeth hynny ag anturiaethau yn ei sgil: aeth i Lundain yn ferch ifanc er mwyn osgoi gorfod priodi, ac yna bu’n teithio’r byd yn gweithio ar longau mordeithiau lle bu’n helpu menywod i esgor ar fabanod, yn gofalu am bobl sâl, a hefyd yn perfformio mewn dramâu Shakespeare un-fenyw. Roedd ganddi ddiddordeb brwd mewn nyrsio gydol ei hoes, a bu’n ymladd yn erbyn biwrocratiaeth yn y Crimea er mwyn i filwyr wedi’u hanafu gael triniaeth briodol. Ysgrifennodd hunangofiant wedi iddi ddychwelyd i Brydain, ychydig cyn iddi farw.

Illustration of Anna Bastek by Molly Allen

Anna Bastek

Gwyddoniaeth, Addysg & 3ydd Sector Twymder Cymdeithasol & Gweithrediad

Yn ferch i weithiwr llongau yng Ngwlad Pwyl, symudodd Anna Bastek i Gymru yn 2004 i orffen gradd Meistr mewn peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, lle’r ymunodd â rhaglen Go Wales i raddedigion. Bu hynny’n ysgogiad iddi i sefydlu ei busnes ei hun, ac mae ei chwmni cyfieithu yn Abertawe bellach yn chweched ar rhestr y busnesau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, yn cyflogi 30 o staff ac 8,000 o gyfieithwyr ledled y byd.

100 Welsh Women illustrations by Molly Allen