Swyddog Polisi ac Ymchwil
AM RHWYDWAITH CYDRADDOLDEB MENYWOD (RhCM) CYMRU
RhCM Cymru yw prif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru. Ein gweledigaeth yw Cymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhywedd, lle mae gan bawb gyfle ac awdurdod cyfartal i lywio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.
Fel sefydliad aelodaeth, rydym yn gweithio mewn clymblaid â’n haelodau sefydliadol ac unigol trwy cysylltu, ymgyrchu a hyrwyddo menywod i wireddu ein gweledigaeth.
GWYBODAETH AM Y RÔL
Mae’r rôl yn ymwneud ag ymchwilio i’r rhwystrau i gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru, datblygu ein hargymhellion polisi ar eu cyfer, ac yna ddefnyddio’r dystiolaeth i eirioli a dylanwadu, gan sicrhau bod ein gwaith yn cael effaith wirioneddol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol hanes o ymchwilio a drafftio darnau ysgrifenedig effeithiol ar gyfer cynulleidfa polisi, a hynny’n ddelfrydol yng nghyd-destun polisi yng Nghymru neu yn y trydydd sector. Byddwch yn gwybod sut i nodi a meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol a bydd gennych ymwybyddiaeth wleidyddol gadarn, ynghyd â’r gallu i feddwl yn strategol. At hynny, bydd arnoch angen llygad craff am fanylion a sgiliau hunanreoli rhagorol, gyda’r gallu i flaenoriaethu disgwyliadau gwrthgyferbyniol mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym.
Rydym yn croesawu’n benodol geisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad bywyd o wahaniaethu croestoriadol, gan gynnwys ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Siaradwr Cymraeg: Dymunol
Cyfrifoldebau allweddol y rôl
Polisi ac Ymchwil: Byddwch yn cyfrannu at y broses o gynhyrchu gwaith ysgrifenedig yn ymwneud â’n polisïau, gan gynnwys adroddiadau, papurau briffio, ymatebion i ymgyngoriadau, a phostiadau blog. Gan weithio dan oruchwyliaeth y Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, a chan gyd-awduro gyda nhw yn aml, byddwch yn cael arweiniad ar fformat a thôn cyhoeddiadau, ac ar yr effaith a ddymunir. Ond byddwn yn disgwyl i chi ddefnyddio eich sgiliau dadansoddol i feithrin dealltwriaeth ragorol o’r pwnc dan sylw a llunio drafft cyntaf cadarn. Yn ymarferol, bydd disgwyl i chi wneud y canlynol:
- Meithrin gwybodaeth arbenigol mewn meysydd polisi penodol sy’n berthnasol i gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru;
- Cyfrannu at y broses o gasglu data cynradd drwy gefnogi dylunio, gwaith maes a gwerthuso arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws;
- Paratoi papurau briffio, adroddiadau ac ymatebion clir i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a’r Senedd, gan weithio gydag aelodau perthnasol o’r tîm a sefydliadau partner, yn ôl yr angen;
- Dadansoddi data o ffynonellau dibynadwy a’i gynrychioli ar ffurf weledol;
- Adolygu a chyfeirio’n ddigonol at bolisi a llenyddiaeth academaidd, a chynnal safon uchel o gywirdeb.
Eiriolaeth: I sicrhau bod ein hymchwil a’n hargymhellion polisi yn cael effaith, byddwch yn cyfrannu at ein gwaith eirioli trwy gefnogi’r Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus i ddatblygu a meithrin perthnasoedd â llunwyr polisi a rhanddeiliaid allweddol eraill. Yn ymarferol, byddwch yn gwneud y canlynol:
- Monitro gweithgarwch seneddol yn ein meysydd gwaith allweddol, a thynnu sylw’r Rheolwr Polisi a Materion ac aelodau eraill o’r staff at ddatblygiadau perthnasol, fel y bo’n briodol;
- Gweithio gyda’r Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu i hyrwyddo argymhellion polisi ac adroddiadau RhCM Cymru ymhlith ein haelodau a chynulleidfaoedd eraill;
- Cynrychioli a siarad ar ran RhCM Cymru mewn cyfarfodydd a digwyddiadau, fel y bo’n briodol;
- Cefnogi’r gwaith o ddarparu hyfforddiant ar hawliau menywod a chroestoriadedd, swyddogaeth ysgrifenyddiaeth RhCM i’r Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod, y Rhwydwaith Rhywedd, a fforymau eraill, fel y bo’n briodol, yn cynnwys trwy drefnu cyfarfodydd, cydlynu ymgyrchoedd cyfathrebu a chymryd nodiadau;
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill a all fod yn ofynnol gan y rôl.
cewch wybod mwy am sut i wneud cais yma.