Rydym yn recriwtio Rheolwr Rhaglenni

Wednesday February 12, 2025

Cyflog: £36,000 CALl

Oriau: 80% (30 awr yr wythnos), gyda phosibilrwydd o gynyddu i Lawn-amser

Math o gontract: Cyfnod penodol hyd at fis Mawrth 2028 i ddechrau cyn gynted â phosibl

YNGLŶN Â RHWYDWAITH CYDRADDOLDEB MENYWOD (RhCM) CYMRU

RhCM Cymru yw’r brif elusen cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd, lle mae gan bawb gyfle cyfartal ac awdurdod i siapio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.

Fel sefydliad ag aelodau, rydym yn gweithio mewn cynghrair â’n haelodau sefydliadol ac unigol gan gysylltu, ymgyrchu a hyrwyddo menywod i wireddu ein gweledigaeth.

YNGLŶN Â’R RÔL

Bydd y Rheolwr Rhaglenni yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu gwaith rhaglennol o fewn RhCM Cymru, gyda chyfrifoldeb am gyllidebau rhaglennol, dylunio a gweithredu cynlluniau gwaith, cydlynu cydweithwyr ar draws y sefydliad ac mewn grwpiau llywio allanol, a bod yn rheolwr llinell ar swyddogion prosiect o fewn RhCM Cymru ac – ar elfennau rhaglennol – yn sefydliadau partner PCLlC.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol hanes profedig o reoli rhaglenni (yn ddelfrydol o fewn partneriaeth neu gynghrair), rheoli staff ac ymgynghorwyr a rheoli cyllideb a bydd ganddynt ddealltwriaeth ddofn o gydraddoldeb, yn ddelfrydol mewn cyd-destun Cymreig. Byddwch yn drefnus iawn ac yn gyfathrebwr gwych. Byddwch hefyd angen llygad da am fanylion a sgiliau hunanreoli rhagorol gyda’r gallu i flaenoriaethu gofynion croes mewn amgylchedd lle mae pethau’n symud yn gyflym.

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 21 Chwefror 2025, hanner dydd

Cyfweliad ar-lein: Dydd Mawrth, 25 Chwefror 2025

Disgrifiad swydd llawn a sut i ymgeisio: Rheolwr Rhaglenni