RhCM yn penodi Prif Swyddog Gweithredol newydd

Monday March 2, 2026

Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru wrth ei fodd yn cyhoeddi penodiad Prif Swyddog Gweithredol newydd, Anna Brown.

Mae gan Anna 20 mlynedd o brofiad traws-sector sy’n cwmpasu arweinyddiaeth elusennau yn y DU, datblygu rhyngwladol, a chyllid. Bu’n gwasanaethu’n flaenorol fel Cyd-Prif Swyddog Gweithredol yr elusen cyfiawnder cymdeithasol Talking Money, sydd wedi’i lleoli ym Mryste, ac mae’n cyrraedd gydag ymrwymiad clir i degwch, cydweithio, ac ymhelaethu ar leisiau cymunedau sy’n wynebu anfantais.

Ar adeg hollbwysig i gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru, bydd arweinyddiaeth Anna yn helpu i gryfhau llais RhCM, dyfnhau partneriaethau, a hyrwyddo cynnydd tuag at newid systemig parhaol. Bydd hi’n ymuno â RhCM o 9 Mawrth, gan arwain y sefydliad i’w gam nesaf a hyrwyddo ein huchelgais i greu Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd.

Dywedodd Anna Brown:

“Mae anghydraddoldeb rhywedd yn parhau i fod wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ein systemau a’n strwythurau. Rwy’n gyffrous i ymuno â thîm RhCM Cymru i helpu i yrru’r camau gweithredu beiddgar, ar y cyd sydd eu hangen i herio anghyfiawnder a chyflawni newid parhaol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, aelodau a phartneriaid ledled Cymru i sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u hadlewyrchu yn y penderfyniadau sy’n llunio ein cenedl.”

Dywedodd Cadeirydd RhCM Cymru, Mary Ann Brocklesby:

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu Anna fel ein Prif Swyddog Gweithredol newydd. Gyda hanes profedig a llwyddiannus o ymgysylltu â pholisïau, datblygu partneriaethau, a chyflwyno rhaglenni ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, bydd hi’n arwain RhCM i’n cam nesaf ac yn gyrru ein gwaith ymlaen i greu Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd.”

Mae hyn wrth gwrs yn golygu ein bod yn ffarwelio’n drist â’n Cyfarwyddwr ers 2023, Victoria Vasey. Mae Victoria wedi arwain cyfnod o dwf i’r tîm, wrth i ni arallgyfeirio ein cyllid, ail-lansio ein rhaglen fentora traws-gydraddoldebau blaenllaw, Pwer Cyfartal Llais Cyfartal, a dechrau meithrin Grŵp Cyllideb Menywod Cymru.

Dywedodd Cadeirydd RhCM Cymru, Mary Ann Brocklesby:

“Ar ran y Bwrdd a phawb yn RhCM Cymru, hoffwn ddiolch i Victoria am ei harweinyddiaeth, ei hymroddiad a’i gweledigaeth. Mae Victoria wedi cadarnhau a chryfhau safle RhCM fel sefydliad cydraddoldeb rhywedd blaenllaw Cymru, wedi tyfu a grymuso ein tîm staff, ac wedi’n llywio’n fedrus drwy tirwedd gymhleth sy’n esblygu’n barhaus. Byddwn yn colli Victoria, ac wrth iddi symud ymlaen i’w phennod nesaf, hoffem ddymuno’r gorau iddi yn ei holl ymdrechion yn y dyfodol.”

Dywedodd Victoria Vasey:

“Mae wedi bod yn fraint arwain RhCM ochr yn ochr â thîm staff rhagorol, diwyd a diflino sydd mor angerddol am weithio dros Gymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd. Diolch iddyn nhw, ac i’n partneriaid, cefnogwyr a chyllidwyr, heb eu cefnogaeth, eu lleisiau a’u harbenigedd ni allem wneud yr un effaith. Diolch hefyd i’r Bwrdd am eu cefnogaeth amhrisiadwy drwy gydol fy amser fel Cyfarwyddwr.

Gyda’n gilydd, rydym wedi dyfnhau ymrwymiad RhCM i ymchwil gadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, wedi atgyfnerthu ein gwerthoedd cynhwysol, ac wedi parhau i adeiladu sefydliad sydd ei angen yn fawr yng Nghymru heddiw. Wrth i mi gamu i ffwrdd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd RhCM yn parhau i fynd o nerth i nerth o dan ei arweinyddiaeth newydd.”