DATGANIAD I’R WASG: Lleihau tlodi yng Nghymru drwy wneud gofal plant ar gael i bawb, meddai elusen 

Thursday October 30, 2025

Mae elusen yng Nghymru yn galw am system gofal plant symlach ac ehangach, gyda darpariaeth gyffredinol ar gael i bob plentyn. Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw gan brif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru, yn argymell y dylai Llywodraeth nesaf Cymru fuddsoddi mewn adeiladu system hyblyg, symlach a fyddai’n lleihau tlodi, yn hyrwyddo datblygiad plant, ac yn rhoi hwb i gyflogaeth.

Costau gofal plant yng Nghymru bellach yw’r uchaf yn y DU, yn dilyn cyflwyno cynnig newydd yn Lloegr ar gyfer rhieni sy’n gweithio. Mae rhieni’n gweld y system bresennol fel un ddatgysylltiedig, gymhleth, ac anodd ei defnyddio, ac mae gofal plant wedi’i ariannu i blant dan dair oed ac i deuluoedd ar yr incwm isaf yn gyfyngedig iawn.  

Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir nad yr ateb yw i Gymru gopïo’r hyn sydd wedi’i wneud yn Lloegr – mae gan y ddwy system bresennol ddiffygion sylweddol.  Mae angen ateb unigryw Gymreig i deuluoedd a gweithlu’r blynyddoedd cynnar er mwyn iddynt gael yr hyn y maent yn ei haeddu – darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel, cynaliadwy a hyblyg, gyda chyflog ac amodau gwaith teg i staff.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ymchwil gyda thros 780 o rieni yng Nghymru a rhanddeiliaid arbenigol sy’n gweithio ar ofal plant, ac mae’n rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o sut beth fyddai system well yng Nghymru. Y cam cyntaf yw targedu buddsoddiad lle bydd yn cael yr effaith fwyaf. Mae ymchwil RhCM Cymru yn dangos mai’r rhai a fyddai’n elwa fwyaf o ddarpariaeth fforddiadwy o ansawdd uchel yw teuluoedd ar incwm isel. Gallai cyflwyno elfen gyffredinol o 15 awr yr wythnos o leiaf, gyda chymorth ychwanegol o hyd at 35 awr yr wythnos, yn ddibynnol ar brawf modd ac yn seiliedig ar incwm yr aelwyd, helpu i godi’r teuluoedd hyn allan o dlodi a rhoi dechrau gwell mewn bywyd i blant difreintiedig.

Un agwedd allweddol ar argymhelliad yr adroddiad yw y byddai’r elfen gyffredinol yn berthnasol i bob plentyn, p’un ai yw eu rhieni mewn gwaith ai peidio. Mae diffyg gofal plant fforddiadwy a hygyrch yn effeithio’n anghymesur ar fenywod, gan eu bod yn ysgwyddo cyfran anghyfartal o ofal plant. Ar gyfartaledd, mae menywod yn y DU yn treulio 45 awr yr wythnos yn gofalu am blentyn – dwywaith cymaint â dynion. Mynegodd llawer o rieni fod hyn yn cyfyngu ar eu cyfleoedd cyflogaeth. Disgrifiodd un rhiant fel roedd yn hepgor prydau bwyd yn rheolaidd oherwydd bod ganddyn nhw cyn lleied o incwm, ar ôl cael eu gorfodi i adael y gwaith i ofalu am eu plentyn. 

Mae diffyg hyblygrwydd yn y ddarpariaeth bresennol hefyd yn cyfyngu ar gyfleoedd cyflogaeth rhieni, ac yn ei gwneud hi’n anodd i rai teuluoedd gael mynediad at eu hawliau. Mae angen mwy o gefnogaeth i ddarparwyr allu cynnig gofal plant yn hyblyg, mewn ffordd sy’n galluogi rhieni i lwyddo yn eu bywydau gwaith a phlant i ffynnu. Mae adroddiad RhCM Cymru yn argymell darparu gwasanaethau integredig i gefnogi teuluoedd gyda phob agwedd – gydag un pwynt cyswllt, wedi’i gydleoli, ac o fewn cyrraedd cymunedau difreintiedig.  

Dylai darparwyr gael eu talu yn unol â chost gwirioneddol cyflenwi gwasanaeth, gyda chyllid addas ar gyfer darpariaeth mewn ardaloedd y gwelwyd eu bod yn cael eu tanwasanaethu – sy’n aml yn wledig neu’n ddifreintiedig – ac ar gyfer plant sy’n anabl neu sydd ag anghenion ychwanegol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Victoria Vasey: 

“Mae gofal plant ar groesffordd, a nawr yw’r amser ar gyfer trawsnewidiad. Mae’r adroddiad hwn yn cynnig dull newydd o gyflwyno’r system gofal plant ac addysg gynnar yng Nghymru a fydd yn helpu i godi teuluoedd allan o dlodi, rhoi dechrau gwell mewn bywyd i blant, a chynyddu gweithgarwch economaidd yng Nghymru – yn enwedig i fenywod, sy’n dal i dreulio dwywaith cymaint o oriau’r wythnos yn gofalu am blant na dynion ar gyfartaledd.

Byddai hawl graidd i bawb gael gofal plant ynghyd ag elfen sy’n seiliedig ar brawf modd yn targedu buddsoddiad lle bydd yn cael yr effaith fwyaf – ar deuluoedd a chymunedau difreintiedig. Mae hefyd yn hanfodol bod gallu darparwyr i gyflwyno darpariaeth symlach, hyblyg yn cael ei gefnogi’n briodol, er mwyn gwneud i’r system weithio ar gyfer bywydau gwaith rhieni, ac er lles plant a theuluoedd yn gyffredinol. 

 Dylai pob plaid ystyried hyn wrth iddynt greu eu cynlluniau a gwneud addewidion cyn etholiad Senedd 2026.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Bevan, Steffan Evans, cyfrannwr: 

“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi tystiolaeth bellach eto nad yw’r dull presennol o gynnig gofal plant yng Nghymru yn addas i’r diben. Mae system gofal plant sydd wedi’i chynllunio’n dda ac sy’n gweithio’n dda yn offeryn allweddol wrth fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Mae’n hanfodol bod pa bynnag blaid neu bleidiau sy’n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru yn bwrw ymlaen â’r argymhellion a gyflwynwyd gan RhCM ac eraill i ddatblygu system gofal plant sydd wir yn mynd i’r afael â thlodi.” 

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru, Sean O’Neill, cyfrannwr: 

“Rydym wedi galw ers tro am roi hawliau ac anghenion datblygiadol babanod, plant a phobl ifanc wrth wraidd system gofal plant llawer gwell i Gymru.  Dylai gofal plant o safon, sy’n hygyrch ac yn fforddiadwy ac sy’n canolbwyntio ar y plentyn, ac wedi’i ddarparu gan weithlu sy’n cael ei dalu’n dda ac sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr, gael ei ystyried yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth nesaf Cymru, os ydym o ddifrif ynglŷn â datrys yr heriau a’r rhwystrau y mae rhieni’n eu hwynebu, ac y mae’r adroddiad hwn yn eu hamlygu’n briodol.”

Trawsnewid Addysg Gynnar a Gofal Plant yng Nghymru – Adroddiad Llawn

Crynodeb Gweithredol