Ein haelodau

  • Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

    Ynghylch

    Amgeuddfa Genedlaethol

  • Atal Y Fro

    Ynghylch

    Mae Atal y Fro yn darparu cymorth i fenywod a phlant ym Mro Morgannwg sydd wedi profi – neu’n dioddef trais yn y cartref.

  • BHF Cymru

    Ynghylch

    Mae 340,000 o bobl yng Nghymru’n byw o ddydd i ddydd gyda baich clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed. Rydym ni’n awyddus i guro torcalon yng Nghymru trwy barhau i ariannu gwaith ymchwil i glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed er mwyn canfod gwell ffyrdd o’u diagnosio, eu trin ac, yn y pen draw, eu gwella gan achub bywydau.

  • Calan DVS

    Ynghylch

    Mae gwasanaeth trais Calan yn darparu ystod o wasanaethau arbenigol i gefnogi unigolion a theuluoedd sy’n profi cam-drin yn y cartref yn Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Brecon, Radnor a Dyffryn Aman.

  • Cletwr

    Ynghylch

    Y Gymuned sydd biau’r Cletwr a nhw sy’n ei redeg.
    Menter ddielw ydyn ni, wedi’i sefydlu i ddod a’r gymuned at ei gilydd i ddiogelu cyfleustrau a gwasanaethau hanfodol yn yr ardal wledig yma.

  • Community Energy Wales

    Ynghylch

    Mae Ynni Cymunedol Cymru yn sefydliad dielw ar gyfer aelodau a sefydlwyd i roi cymorth a llais i grwpiau cymunedol sy’n gweithio ar brosiectau ynni yng Nghymru. Rydym eisiau helpu i greu’r amodau yng Nghymru sy’n caniatáu i brosiectau ynni cymunedol lwyddo ac i gymunedau ffynnu.

  • DASU North Wales

    Ynghylch

    Datganiad Cenhadaeth: Mae Uned Diogelwch Trais Teuluol yn darparu gwasanaethau ansawdd, gwybodus, cyfrinachol, sydd yn gwerthfawrogi a pharchu goroeswyr trais teuluol.

  • Datblygiadau Egni Gwledig (DEG)

    Ynghylch

    Menter gymdeithasol sydd wedi ennill sawl gwobr yw DEG sy’n cefnogi gweithredu cymunedol ar hyd a lled gogledd orllewin Cymru. Rydym yn ymdrechu i gynyddu gallu ein hardal i ddelio gyda’r cynnydd yng nghost tanwydd ffosil, ac i wella ein amgylchedd naturiol a symud tuag at gymunedau di-garbon.

  • Disability Wales

    Ynghylch

    Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl (DPOs) sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau, cydraddoldeb a byw’n annibynnol pobl anabl yng Nghymru.

    Mae DW yn hyrwyddo mabwysiadu a gweithredu’r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy’n nodi mai rhwystrau amgylcheddol, sefydliadol ac agwedd sy’n anablu pobl ac yn atal eu cyfranogiad llawn mewn cymdeithas nid eu cyflyrau meddygol neu namau.

  • Diverse Cymru

    Ynghylch

    Elusen Gymreig unigryw yw Diverse Cymru, sy’n ymroddedig i gefnogi pobl sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

  • ERS Cymru

    Ynghylch

    ERS Cymru yn gweithredu ar gynsail syml – gall gwleidyddiaeth fod yn well nag ydyw. Rydym yn ymgyrchu dros well democratiaeth yng Nghymru, a ledled y DU.

  • FTWW: Fair Treatment for the Women of Wales

    Ynghylch

    Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW) yw’r unig fudiad trydydd sector yng Nghymru sydd yn cael ei arwain gan gleifion ac sydd wedi ei ymroi yn gyfan i iechyd a chydraddoldeb merched. Rydym yn cefnogi, addysgu ac yn argymell merched yng Nghymru sydd yn dioddef o nifer o wahanol afiechydon ac sydd ddim yn derbyn triniaeth digonol na theg.

  • Grasshopper Communications

    Ynghylch

    Mae Grasshopper yn asiantaeth gyfathrebu arobryn gydag ochr greadigol ac ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned.

  • Hafan Cymru

    Ynghylch

    Cymdeithas dai elusennol yw Hafan Cymru sy’n cynnig tai â chymorth i menywod, ddynion, eu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Rydym yn cynnig dull holistaidd o ddarparu cymorth i fenywod, dynion a theuluoedd sydd ag ystod eang o anghenion – gan gynnwys y rheiny sy’n ddigartref, unigolion sydd wedi profi camdriniaeth ddomestig (gan gynnwys camdriniaeth gorfforol, rhywiol neu seicolegol); unigolion sy’n gwella o’u problemau iechyd meddwl, unigolion sydd â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau, a chyn-droseddwyr. Ein nod yw sicrhau y gall ein cleientiaid gynnal eu hunain mewn cartref annibynnol yn y gymuned.

    Mae ein cynlluniau’n amrywio o ran eu natur. Gallwn ddarparu tai â chymorth, cymorth yn eich cartref eich hun, lloches, ac amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni. Ymhob achos, anogir y rheiny yr ydym yn eu cefnogi i helpu eu hunain a dysgu sgiliau byw newydd. Mae pob unigolyn a gefnogir yn cael pecyn cymorth wedi’i deilwra ar ei gyfer er mwyn diwallu ei anghenion, ac mae hyn yn galluogi pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sy’n ofynnol i fod yn annibynnol oddi ar wasanaethau. Mae ein prosiect Symud Ymlaen yn darparu mynediad at hyfforddiant, addysg a chyflogaeth.

  • Health Education and Improvement Wales

    Ynghylch

    Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn ymroddedig i drawsnewid y gweithlu ar gyfer Cymru iachach. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru yn eistedd ochr yn ochr â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau.

    Mae gennym rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.

  • Learning Disability Wales

    Ynghylch

    Elusen genedlaethol yw Anabledd Dysgu Cymru sydd yn cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru. Mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar greu Cymru sydd yn gwerthfawrogi ac yn cynnwys pob plentyn, person ifanc ac oedolyn gydag anabledd dysgu.

  • MAECymru

    Ynghylch

    Elusen gofrestredig (rhif: 1165832) – Hybu cyfartaledd ac amrywiaeth i wragedd a gwŷr, lleyg ac ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru

  • National Federation of Women’s Institutes-Wales

    Ynghylch

    Sefyldliad y Merched yw’r sefydliad mwyaf i ferched yn y DU gydag oddeutu 215,000 aelodau mewn 6,300 o Sefydliadau (mae 16,000 o aelodau yng Nghymru). Mae’n chwarae rhan unigryw drwy alluogu merched i ddatblygu sgiliau newydd, cynnig cyfleoedd i ferched ymgyrchu ar faterion sy’n bwysig iddynt hwy ac i’w cymunedau, ac yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau i aelodau cymryd rhan ynddynt.

  • National Theatre Wales

    Ynghylch

    Cenedl Cymru yw ein llwyfan.
    Rydym yn cyd-weithio gyda phobl a lleoliadau i greu theatr nodedig sydd yn ysbrydoli newid.
    O’r agos atoch i’r pellgyrhaeddol, mae ein gwaith yn bwerus, dewr ac annisgwyl. Wedi ei gwreiddio yng Nghymru, gyda rhagolwg byd-eang, ni yw’r theatr genedlaethol cyfrwng Saesneg yng Nghymru.

  • North Wales African Society

    Ynghylch

    .

  • Shelter Cymru

    Ynghylch

    Rydym ni’n helpu miloedd o bobl bob blwyddyn ledled Cymru sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng tai drwy gynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol ar dai yn rhad ac am ddim. Pan fydd angen, rydym ni’n herio’n adeiladol ar ran pobl i sicrhau eu bod yn cael cymorth priodol ac i wella arferion a dysgu.

    Rydym ni’n bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel ac yn brwydro’n erbyn yr effaith ddinistriol mae’r argyfwng tai yn ei gael ar bobl a chymdeithas.

    Rydym ni’n gwneud hyn gydag ymgyrchoedd, cyngor a chymorth – a dydyn ni byth yn rhoi’r ffidil yn y to.

    Credwn mai cartref yw popeth.

  • Sian Jones Professional Coaching

    Ynghylch

    Hyfforddiant proffesiynol wedi’i gynllunio i helpu menywod i ddeall a defnyddio eu cryfderau a gwireddu eu potensial llawn.

  • Stonewall Cymru

    Ynghylch

    Cenhadaeth Stonewall Cymru’s yw i sicrhau cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl deurywiol a thrawsrywiol lesbiaidd, hoyw yng Nghymru.

    Ein nod yw helpu i greu Cymru lle gall pobl fod yn rhydd i fod yn nhw eu hunain, lle mae sefydliadau yn helpu i greu newid, lle mae agweddau’r cyhoedd yn gwella, lle mae rhagfarn yn cael ei herio, a lle mae deddfau yn amddiffyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.

  • Sustrans Cymru

    Ynghylch

    Gweledigaeth Sustrans yw bywydau hapusach a lleoedd iachach i bawb trwy’r ffordd rydyn ni’n teithio. Rydym yn cyflawni hyn trwy ei gwneud hi’n haws i bobl gerdded a beicio.

  • Sylfaen Cymru

    Ynghylch

    (to be provided shortly)

  • Taff Housing

    Ynghylch

    Rydym yn datblygu lleoedd gyda phobl, nid elw, mewn golwg, gan adeiladu cartrefi a chymunedau lle gall pobl ffynnu. Rydym yn berchen ar ac yn rheoli dros 1,500 o gartrefi ledled Caerdydd, gan roi rhywle i 4,000 o bobl eu galw’n gartref. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth i dros 1,000 o bobl ledled De Cymru, ac rydym yn tyfu, gyda’r nod o adeiladu cymaint o gartrefi newydd â phosibl.

  • Tai Pawb

    Ynghylch

    Tai Pawb yn Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym Maes Tai yng Nghymru.
    Credwn fod gan bawb yr hawl i gael tai a chartrefi o ansawdd da mewn cymunedau diogel a chydlynol. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau tai, mudiadau cydraddoldeb a’r Llywodraeth i leihau rhagfarn, gwahaniaethu, bod dan anfantais a thlodi ym maes tai.

  • The Centre for African Entrepreneurship

    Ynghylch

    Mae ein gwaith yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi a wynebir gan grwpiau ethnig ac amrywiol yn ddiwylliannol yn Abertawe. Mae ein gwasanaethau’n torri ar draws canllawiau integreiddio ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan ddarparu cefnogaeth gyfannol a chanolig i’r person hyn a grwpiau ymylol eraill. Rydym yn arbenigo mewn entrepreneuriaeth, cyflogadwyedd, a lles.

  • Trans Aid Cymru

    Ynghylch

    Nod Trans Aid Cymru yw cynorthwyo pobl Trawsryweddol, Anneuaidd a Rhyngryw (TARh) gyda chefnogaeth cyd-gymorth. Cynhelir y prosiect gan bobl TARh er lles pobl TARh gan ei wneud yn gynhwysol ac â dealltwriaeth o anghenion y gymuned.

  • Trefnu Cymunedol Cymru

    Ynghylch

    Yn TCC Cymru, credwn yn nerth trawsnewidiol cymuned. Sefydlwyd TCC (Trefnu Cymunedol Cymru) yn 1995 ac mae’n elusen trefnu cymunedol hynaf y DU, wedi’i neilltuo i fynd i’r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol trwy rymuso cymunedau amrywiol ledled Gogledd Ddwyrain Cymru. Ein cenhadaeth yw cefnogi grwpiau lleol i osod eu hagendâu eu hunain, cymryd camau, a gwella eu cymunedau.

  • Urdd Gobaith Cymru

    Ynghylch

    Ein nod yw sicrhau cyfleoedd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i holl ieuenctid Cymru, gan eu helpu i ddatblygu’n unigolion cyflawn a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas.

  • Welsh refugee council

    Ynghylch

    15

  • YnNi Teg

    Ynghylch

    YnNi Teg Cyf. yn gymdeithas budd cymunedol sy’n berchen ar dyrbin gwynt ger Meidrim yn Sir Gaerfyrddin. Ein cenhadaeth yw helpu Cymru i ddatblygu dyfodol ynni glân, lliniaru newid yn yr hinsawdd trwy osod cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a gwneud hyn mewn ffordd deg a democrataidd trwy ledaenu perchnogaeth a buddion ar draws y gymuned yn hytrach na chanolbwyntio yn nwylo’r ychydig.