Camau Cadarnhaol: Ymateb RhCM Cymru a WWBG i Gyllideb Llywodraeth Cymru 2025/26

Monday February 24, 2025

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb derfynol ar gyfer 2025/26 drwy gytundeb gyda Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Rydym yn falch o weld bod cytundeb y gyllideb yn cymryd camau tuag at fynd i’r afael a materion cydraddoldeb rhywedd allweddol a godwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (RhCM) a Grwp Cyllideb Menywod Cymru yn ein tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid, mewn gwelliant ar y Gyllideb ddrafft.

Galwasom am gyllid ar gyfer yr estyniadau a addawyd i Dechrau’n Deg a chynnydd yn y gyfradd fesul awr ar gyfer darparwyr gofal plan fel rhan o’r Cynnig Gofal Plant, ac mae’n gadarnhaol  i weld £30 miliwn ychwanegol yn cael ei gynnwys yn y gyllideb terfynol. Mae’r cyllid hwn yn gam tuag at sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer darparwyr. Fodd bynnag, mae ymdreichion at gynaliadwyedd yn parhau i gael eu llesteirio gan system gymhleth a digyswllt, ac rydym yn siomedig nad oes unrhyw arian wedi ei ddyrannu i fynd i’r afael â’r materion systematig hyn.

Mae menywod yn fwy tebygol o ddibynnu ar wasanaethau cyhoeddus ac i weithio ynddynt, yn enwedig mamau sengl, menywod anabl, lleiafrifoedd ethnig a menywod hiliol. Ble caiff wasanaethau eu torri, mae’r baich hefyd yn fwy tebygol o ddisgyn arnynt fel darparwyr pan fetho popeth arall. Gyda hyn mewn golwg, galwasom am fuddsoddiad pellach mewn awdurdodau lleol a chroesawn y cynnydd a gyhoeddwyd mewn cyllid ar gyfer naw awdurdod – er na fydd hyn yn mynd yn ddigon pell i fynd i’r afael â ddiffygion cyllid sylweddol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod yng Nghymru.

Rydym hefyd yn croesawu’r cynnydd yn y cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol, piler allweddol arall o’n tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid. Fodd bynnag rydym yn pryderu, heb wariant wedi’i dargedu i wella’r telerau ac amodau ar gyfer gweithlu’r sector sy’n fenywod yn bennaf, ddim ond plastr glynu yw hwn.

Mae gwreiddio cyllidebu ar sail rhywedd ym mhroses gyllidebol Cymru yn ffordd allweddol o osgoi effeithiau anghyfartal o’r fath hyn, ac i alluogi Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r rhwystrau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y mae menywod yng Nghymru yn parhau i’w hwynebu. Er bod sawl agwedd hanfodol o’n tystiolaeth yn cael eu hadlewyrchu yn y Gyllideb derfynol, mae llawer o waith i’w wneud o hyd er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd wrth ei gwraidd. I gael rhagor o wybodaeth am gyllidebu ar sail rhywedd a’n tystiolaeth, gweler ein hymateb i’r ymgynghoriad fan hyn.