Adroddiad newydd yn tynnu sylw at brofiadau menywod o’r daith wleidyddol yng Nghymru
Y Senedd oedd y ddeddfwrfa gyntaf i gael cydbwysedd rhywedd, a hynny yn 2003, gan dorri tir newydd ar gyfer cynrychiolaeth menywod yn fyd-eang. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, dim ond 43% o’i aelodau sydd yn fenywod. Yn sgil tynnu Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn ôl, mae perygl y gallai’r Senedd nesaf gynnwys y lefel isaf o gynrychiolaeth menywod ers datganoli.
Mae ein adroddiad newydd, Profiad Menywod o’r Daith Wleidyddol yng Nghymru, wedi’i seilio ar gyfres o gyfweliadau un-i-un manwl a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Hydref 2025 â menywod o’r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Roedd y cyfweliadau hyn yn cofnodi profiadau ar draws San Steffan, y Senedd a llywodraeth leol, ac yn cynnwys menywod ar wahanol gamau o’u teithiau gwleidyddol — o’r rhai ar gamau cynnar i’r rhai oedd wedi symud ymlaen i rolau gwleidyddol uwch.
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio profiadau menywod o’r daith wleidyddol yng Nghymru ac yn tynnu sylw at y ffactorau sy’n dylanwadu ar eu cyfranogiad a’u cynnydd ar draws gwahanol lefelau o lywodraeth.
Yn benodol, mae’n ymdrin â’r canlynol:
- Rôl pleidiau gwleidyddol wrth gefnogi cyfranogiad gwleidyddol menywod.
- Rhwystrau sy’n ymwneud â mentora a hyfforddiant, cyfrifoldebau gofalu, a chyfyngiadau ariannol.
- Cyffredinrwydd aflonyddu, bwlio, a gwahaniaethu rhyngblethol.
- Ffactorau sy’n galluogi menywod i lywio gyrfaoedd gwleidyddol yn llwyddiannus.
- Argymhellion i bleidiau gwleidyddol i wella amrywiaeth, cynhwysiant a chynrychiolaeth.
O’r dadansoddiad hwn, mae’r adroddiad yn cyflwyno argymhellion ymarferol ar draws pedwar maes allweddol ar gyfer cefnogi cyfranogiad gwleidyddol menywod:
- Cyfrifoldebau gofalu: cymorth gofal plant, bwrsariaethau, gweithio hyblyg, ac opsiynau rhannu swyddi.
- Aflonyddu a bwlio: gweithdrefnau adrodd clir, cymorth cyfreithiol a chwnsela, hyfforddiant diogelwch ar-lein, a hyfforddiant gorfodol ar gydraddoldeb a gwrth-wahaniaethu.
- Rhwystrau ariannol: tryloywder, bwrsariaethau, cymorth codi arian, a strategaethau ad-dalu cynhwysol.
- Mentora a hyfforddiant: rhaglenni strwythuredig, cysgodi, cymorth gan gymheiriaid, a chanllawiau clir.
- Strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant: datblygu, gweithredu a chyhoeddi strategaethau Amrywiaeth a Chynhwysiant (D&I) clir, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, er mwyn meithrin diwylliannau cynhwysol, gosod targedau mesuradwy, a sicrhau atebolrwydd am gynnydd.