Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu llawrydd
*Mae ymgeisiadau wedi cau*
Mae RhCM Cymru yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu rhan-amser llawrydd i gefnogi ein gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan.
- Lleoliad: Gweithio o bell
- Ffi: £18 yr awr yn gynhwysol
- Oriau gwaith: Hyd at 50 awr y mis (gweithio hyblyg)
- Math o gontract: 5 mis gyda’r potensial i ymestyn
YNGLŶN Â RHWYDWAITH CYDRADDOLDEB MENYWOD (RHCM) CYMRU
RhCM Cymru yw’r elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd, lle mae gan bawb gyfle ac awdurdod cyfartal i lunio cymdeithas a’u bywydau eu hunain.
Fel sefydliad aelodaeth, rydym yn gweithio mewn clymblaid gyda’n haelodau sefydliadol ac unigol gan gysylltu, ymgyrchu a hyrwyddo menywod i wireddu ein gweledigaeth.
YNGLŶN Â’R RÔL
Bydd y Swyddog Cyfathrebu llawrydd yn adrodd i’r Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Bydd y tasgau’n cynnwys y canlynol:
- Ysgrifennu copi: cyfryngau cymdeithasol RhCM ac PCLlC (rhaglen fentora Pwer Cyfartal Llais Cyfartal)
- Dylunio asedau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
- Postio ac amserlennu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol PCLlC a RhCM
- Monitro’r cyfryngau cymdeithasol
- Calendr cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
- Ysgrifennu copi: cynnwys ar gyfer y wefan
- Lanlwytho cynnwys ar gyfer y gwefan
- Adrodd ar dadansoddeg: y cyfryngau cymdeithasol a gwefan
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o weithio ym maes cyfathrebu, yn ddelfrydol o fewn amgylchedd elusennol/trydydd sector
- Cyfathrebu ysgrifenedig da
- Sylw i fanylion
- Hyfedredd wrth ddefnyddio’r llwyfannau canlynol:
- Cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, LinkedIn, Bluesky
- WordPress
- Canva (neu feddalwedd/offer dylunio graffig eraill sydd ar gael am ddim)
- Google Analytics
- Dealltwriaeth o anghydraddoldeb rhywedd a chroestoriadoldeb, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru
- Ymrwymiad i ddull croestoriadol, cynhwysol i hawliau menywod a Chymru sy’n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd.
Siaradwr Cymraeg: Dymunol
SUT I WNEUD CAIS
Anfonwch y canlynol i recruitment@wenwales.org.uk:
- Eich CV
- Datganiad o ddim mwy na 400 gair yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl hon
- Enghreifftiau o’ch gwaith yn y fformatau perthnasol (Os yw’n berthnasol, cofiwch gynnwys enghreifftiau o’ch gwaith yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg):
- Postiadau ac asedau cyfryngau cymdeithasol
- Post blog, erthygl, neu dudalen lanio gwefan
Dyddiad cau: 23 Gorffennaf 2025
Any questions? Please email recruitment@wenwales.org.uk