Ymunwch â’r Tîm: Cydlynydd Rhaglen

Tuesday April 8, 2025

*Mae ceisiadau am y rôl hon wedi cau*

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn trefnus, cydweithredol ymuno â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru fel Cydlynydd Rhaglen ar gyfer rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal (PCLlC)

Dysgwch fwy am PCLlC a’r rôl isod, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am ofynion a chyfrifoldebau mewn PDF y gellir ei lawrlwytho.

Nod rhaglen PCLlC yw sicrhau cynrychiolaeth fwy amrywiol mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus trwy gryfhau gwybodaeth a sgiliau’r rhai sy’n dyheu am fod yno, gan ddysgu a chael cefnogaeth gan y rheiny sydd wedi cyrraedd swyddi â phŵer, dylanwad ac awdurdod yn wyneb yr heriau hyn.

Byddwch yn adeiladu ar lwyddiant cylch y rhaglen PCLlC blaenorol, a gynhaliwyd rhwng 2021-2024. Bydd ymgeiswyr yn dangos brwdfrydedd ac arloesedd i sicrhau bod cylch rhaglen nesaf PCLlC (2025-2028) yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn rhoi’r profiad gorau posibl i’r rhai sy’n cael eu mentora ac i’w mentoriaid, gan greu llwybr uniongyrchol tuag at sicrhau mwy o amrywiaeth mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus yng Nghymru.

Rhoddir y cyfarwyddiadau ymgeisio ar gyfer swydd WEN Cymru isod.

YNGLŶN Â’R RÔL 

Bydd Cydlynydd y Rhaglen yn gweithio ochr yn ochr â deiliaid swyddi tebyg yn Anabledd Cymru, EYST a Stonewall Cymru, a bydd yn cefnogi Rheolwr Rhaglenni WEN i gyflwyno’r rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal mewn partneriaeth.  Byddwch yn arwain y gwaith o recriwtio a chefnogi’r garfan o tua 25 pâr o fentoriaid a rhai sy’n cael eu mentora o’ch sefydliad. Byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Rhaglenni i gyflwyno’r holl ddigwyddiadau o fewn y rhaglen a byddwch yn mynd i ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled Cymru, a thua unwaith y flwyddyn yn Llundain. 

Gyda hanes wedi’i brofi o gyflawni prosiectau, byddwch yn ddeinamig, trefnus, yn gyfathrebwr da ac yn gallu cysylltu â phobl i’w helpu i gyflawni eu nodau. Byddwch yn llawn cymhelliant, yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun ac yn barod i ymuno â thîm sy’n perfformio ar lefel uchel ond hefyd yn hwyl ac yn gefnogol ac i gyd yn ymroddedig i weithio at gydraddoldeb. 

Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad bywyd o  wahaniaethu croestoriadol.  Siaradwr Cymraeg: Dymunol

Lawrlwythwch y fanyleb swydd lawn yma.