WEN Wales supports the IC Change Campaign to make the Istanbul Convention law in the UK/ RhCM Cymru’n cefnogi’r Ymgyrch Newid CI er mwyn gwneud Confensiwn Istanbul yn gyfraith yn y DU
Tuesday December 6th, 2016
WEN Wales supports the IC Change Campaign to make the Istanbul Convention law in the UK
The Women’s Equality Network (WEN) Wales is supporting the IC Change Campaign to make the Istanbul Convention law in the UK.
The Istanbul Convention is the most comprehensive and up-to-date legal framework for ending violence against women and girls: “The convention leaves no doubt: there can be no real equality between women and men if women experience gender-based violence on a large-scale and state agencies and institutions turn a blind eye”, Council of Europe.
The UK Government signed the Istanbul Convention four years ago, but has not yet fulfilled its commitment to ratifying the convention. When a government ratifies the Convention, they are legally bound to follow it. So, if the UK Government ratified the Istanbul Convention, they will have to take all necessary steps it sets out to prevent violence, protect women experiencing violence and prosecute perpetrators.
Dr Eilidh Whiteford MP has introduced a Private Member’s Bill (PMB) which would require the UK Government to make the Istanbul Convention law in the UK – if successful. This bill has cross-party endorsement. It is also supported by the IC Change campaign and a range of organisations working to end gender based violence across the UK, including the Women’s Equality Network (WEN) Wales and Welsh Women’s Aid.
We need to make sure that 100 MPs turn up to support the Bill on 16th December.
Take action!
Sign the petition
Use our model model letter to write to your MP and ask them to support the private members bill on the 16th December
Find our more about what you can do to support this campaign on the IC Change website http://icchange.co.uk/get-involved/
RhCM Cymru’n cefnogi’r Ymgyrch Newid CI er mwyn gwneud Confensiwn Istanbul yn gyfraith yn y DU
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru’n cefnogi’r Ymgyrch Newid CI er mwyn gwneud Confensiwn Istanbul yn gyfraith yn y DU.
Confensiwn Istanbul yw‘r fframwaith mwyaf cynhwysfawr a diweddar er mwyn dod i ben â thrais yn erbyn menywod a merched: “Mae’r confensiwn yn bendant: ni ellir cael cydraddoldeb rhwng menywod a dynion os yw menywod yn profi trais ar sail rhyw yn eang a bod asiantaethau a sefydliadau’r wladwriaeth yn anwybyddu hyn”, Cyngor Ewrop.
Llofnododd Llywodraeth y DU Gonfensiwn Istanbul bedair blynedd yn ôl, ond nid yw eto wedi cyflawni ei hymrwymiad i gadarnhau’r confensiwn. Pan fo’r llywodraeth yn cadarnhau’r Confensiwn, mae’n rhaid iddi ei ddilyn, yn ôl y gyfraith. Felly, petai Llywodraeth y DU yn cadarnhau Confensiwn Istanbul, byddai’n rhaid iddi gymryd yr holl gamau angenrheidiol i atal trais, diogelu menywod sy’n profi trais ac erlyn troseddwyr.
Mae Dr Eilidh Whiteford AS wedi cyflwyno Bil Aelodau Preifat (BAP) a fyddai’n gofyn i Lywodraeth y DU wneud Confensiwn y DU yn gyfraith yn y DU – os yw‘n llwyddiannus. Mae gan y Bil hwn gefogaeth drawsbleidiol. Mae hefyd yn cael ei gefnogi gan Ymgyrch Newid CI ac amrywiaeth o sefydliadau sy’n gweithio i ddod â thrais ar sail rhyw ledled y DU i ben, gan gynnwys Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru a Chymorth i Fenywod Cymru.
Mae angen i ni sicrhau bod 100 o AS yn dod i gefnogi’r Bil ar 16 Rhagfyr.
Gweithredwch!
Llofnodwch y ddeiseb
Defnyddiwch ein llythyr model i ysgrifennu at eich AS a gofyn iddo gefnogi’r bil aelodau preifat ar 16 Rhagfyr.
Cewch fwy o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud i gefnogi’r ymgyrch hon ar wefan Newid CI yn http://icchange.co.uk/get-involved/