WEN Wales Awarded funding to promote CEDAW in Wales/ RhCM Cymru’n derbyn arian i hyrwyddo CEDAW yng Nghymru
Monday June 5th, 2017
WEN Wales Awarded funding to promote CEDAW in Wales
The Women’s Equality Network (WEN) Wales is delighted to have been awarded a grant from the Baring Foundation to raise awareness about CEDAW in Wales.
The two-year project will empower third sector organisations to use the United Nations Convention on the Elimination of all Forms of Discrimination against Women (CEDAW) to challenge discrimination faced by women and girls in Wales.
CEDAW is an extremely important piece of international legislation that underpins women’s rights in the UK. Often called an “International bill of rights for women”, the UK Government ratified the CEDAW convention in 1986 which means the UK must make a report on its progress every four years. The Committee will next examine the UK’s progress in 2018.
Building on the successful pilot of our CEDAW training workshop, the project will develop Wales-specific CEDAW resources, and provide training, support and consultancy on the human rights of women and girls. It will increase understanding of the relevance of the Convention to the work of third sector organisations and support them to engage with the CEDAW shadow reporting process
WEN Wales will deliver the project in partnership with CEDAW experts, such as Professor Jackie Jones from the University of the West of England, who is the Chair of Wales Assembly of Women (WAW). Jackie specialises in and is recognised internationally as an expert in the human rights of women.
This project will make a significant contribution to WEN’s vision of a fairer society in which all women and girls can live free from prejudice and gender discrimination.
RhCM Cymru’n derbyn arian i hyrwyddo CEDAW yng Nghymru
Mae’n bleser gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru dderbyn grant gan yr Ymddiriedolaeth Baring i gynyddu ymwybyddiaeth o CEDAW yng Nghymru.
Bydd y prosiect dwy flynedd hwn yn grymuso sefydliadau’r trydydd sector i ddefnyddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod (CEDAW) i herio gwahaniaethu a wynebir gan fenywod a merched yng Nghymru.
Darn o ddeddfwriaeth ryngwladol bwysig iawn yw CEDAW sydd wrth wraidd hawliau menywod yn y DU. Fe’i gelwir yn aml yn “Fil rhyngwladol o hawliau i fenywod”, a chadarnhaodd Llywodraeth y DU gonfensiwn CEDAW ym 1986 sy’n golygu bod yn rhaid i’r DU lunio adroddiad ar ei gynnydd bob pedair blynedd. Bydd y pwyllgor yn archwilio cynnydd y DU yn 2018.
Gan adeiladu ar beilot llwyddiannus ein gweithdy hyfforddiant CEDAW, bydd y prosiect yn datblygu adnoddau CEDAW sy’n benodol i Gymru a rhoi hyfforddiant, cefnogaeth ac ymgynghoriad ar hawliau dynol menywod a merched. Bydd yn cynyddu dealltwriaeth o berthnasedd y Confensiwn i waith sefydliadau’r trydydd sector a’u cefnogi i ymgysylltu â phroses cysgodi adrodd CEDAW
Bydd RhCM Cymru’n cyflwyno’r prosiect mewn partneriaeth ag arbenigwyr CEDAW, megis yr Athro Jackie Jones o Brifysgol Gorllewin Lloegr, sy’n gadeirydd Cynulliad Menywod Cymru (WAW). Mae Jackie’n arbenigo mewn hawliau dynol i ferched ac yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am y gwaith hwnnw.
Bydd y prosiect hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol i weledigaeth RhCM o gymdeithas decach lle gall menywod a merched fyw heb ragfarn a gwahaniaethu ar sail rhyw.