Invitation to Take Part in our Research on Women and Care in Wales/ Gwahoddiad i Gymryd Rhan yn ein Hymchwil i Fenywod a Gofal yng Nghymru

Wednesday October 21st, 2015

Invitation to Take Part in our Research on Women and Care in Wales 

The Women’s Equality Network (WEN) Wales is carrying out a research project on women and care in Wales. We want to hear about your experiences of being a Carer.

  • Do you currently care for children, as a parent or other relative?
  • Did you care for children in past?
  • Are you, or have you ever been, a carer for an adult relative, partner or friend?

Why are we doing this research? 

WEN Wales wants to make sure that women carers in Wales are visible, valued and protected. This research will help us to start a conversation and develop key messages on this issue that are based on your real-lived experiences and the values you bring to your role as a Carer.

How to Take Part in the Research

There are three ways that you can get involved in the research:

1. Face-to-face 
If you would like to talk to us face-to-face (e.g. interviews and focus groups) please email us to register your interest by Friday 6th November. Contact Mair Rigby: Email mair.rigby@wenwales.org.uk Tel: 07511 939 235

2. Via our Online Form
You can tell us about your experiences online by going to Survey Monkey and typing your story into the textboxes. You can tell us as much or as little as you want.

3. On Social Media 
Over the next few weeks we’ll be posting and tweeting about care on our Facebook and Twitter accounts. Join the conversation by liking our Facebook page and following us on Twitter @wenwales

Background to this Research 

Care is one of the biggest issues facing women and is a topic raised time and again by our members. No matter what our level of education, the culture we come from, or the place we live, almost all women will be carers at some point in our lives. The vast majority of women have at least one child, for whom they are likely to take primary responsibility. Women also have a 50:50 chance of spending a substantial period caring for an adult by the time they are 59 years old.

The work of unpaid carers is worth an estimated £119 billion to the economy per year, but our recent research shows that women in Wales are paying a high price for caring. Too often, carers in Wales are suffering economic hardship, isolation and poor health. As women provide more unpaid care than men in Wales, this issue has a profound impact on women’s lives.

 


Gwahoddiad i Gymryd Rhan yn ein Hymchwil i Fenywod a Gofal yng Nghymru

 Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru yn cynnal prosiect ymchwil ar fenywod a gofal yng Nghymru. Rydym am glywed am eich profiadau o fod yn Ofalydd.

  • Ydych chi ar hyn o bryd yn gofalu am blant, fel rhiant neu berthynas arall?
  • Fuoch chi’n gofalu am blant yn y gorffennol?
  • Ydych chi, neu a fuoch chi erioed, yn ofalydd i oedolyn oedd yn perthyn i chi, yn gymar i chi neu’n gyfaill?

Pam ydyn nin cynnal yr ymchwil hwn?

 Mae RhCM Cymru eisiau sicrhau fod menywod sy’n ofalwyr yng Nghymru yn weladwy, ac yn cael eu gwerthfawrogi a’u hamddiffyn. Bydd yr ymchwil yma yn ein cynorthwyo i ddechrau sgwrs a datblygu negeseuon allweddol ar y mater hwn fydd wedi eu seilio ar brofiadau sydd wedi eu byw go iawn a’r gwerthoedd y dewch chi i’ch rôl fel Gofalydd.

Sut i Gymryd Rhan yn yr Ymchwil

Mae tair ffordd y gallwch fod yn rhan o’r ymchwil:

  1. Wyneb-yn-wyneb

Pe byddech am siarad â ni wyneb-yn-wyneb (e.e. cyfweliadau a grwpiau ffocws) yna byddwch cystal â’n e-bostio er mwyn cofrestru eich diddordeb erbyn dydd Gwener 6ed Tachwedd. Cysylltwch â Mair Rigby: E-bost mair.rigby@wenwales.org.uk Ffôn: 07511 939 235 

  1. Drwy ein Ffurflen Ar-lein

Gallwch ddweud wrthym am eich profiadau ar-lein drwy fynd at Survey Monkey a theipio eich stori yn y blychau testun. Gallwch ddweud wrthym gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch.

  1. Ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn postio ac yn trydaru ynglŷn â gofal ar ein cyfrifon Facebook a Twitter. Ymunwch â’r sgwrs drwy hoffi ein tudalen Facebook a’n dilyn ar Twitter @wenwales

Y Cefndir ir Ymchwil Hwn

Gofal yw un o’r materion mwyaf sy’n wynebu menywod ac mae’n bwnc caiff ei godi dro ar ôl tro gan ein haelodau. Beth bynnag bo’n lefel addysg, y diwylliant y down ohono, neu ble’r ydym yn byw, bydd bron pob menyw yn ofalydd ar ryw adeg yn ei bywyd. Caiff y mwyafrif helaeth o fenywod o leiaf un plentyn, y byddant yn debygol iawn o dderbyn y cyfrifoldeb pennaf drosto. Mae gan fenywod hefyd debygolrwydd 50:50 o fod wedi gwario cyfnod sylweddol yn gofalu am oedolyn erbyn iddynt fod yn 59 mlwydd oed.

Amcangyfrifir bod gwaith gofalwyr di-dâl yn werth £119 biliwn i’r economi yn flynyddol, ond mae ein hymchwil diweddar yn dangos bod menywod yng Nghymru yn talu pris uchel am ofalu. Yn rhy aml, bydd gofalwyr yng Nghymru yn dioddef caledi economaidd, unigrwydd ac iechyd gwael. Gan i fenywod ddarparu mwy o ofal di-dâl na dynion yng Nghymru, caiff y mater yma effaith difrifol ar fywydau menywod.