HSUK Trustees – Chair of Wales National Committee/ Ymddiriedolwyr HSUK – Cadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol Cymru

Wednesday July 20th, 2016

HSUK Trustees – Chair of Wales National Committee

Salary: This is a voluntary role. It is not accompanied by financial remuneration but travel expenses can be claimed.

8 to 12 meetings per year in Cardiff, Leicester or London, plus a board strategy weekend

Home-Start UK is one of the country’s leading family support charities which provides training, information, guidance and support for a network of 280 local Home-Starts in the UK. In the past year alone, local Home-Starts provided support to 33,000 families and 70,000 children and utilised the support of over 16,000 volunteers in helping to tackle some of the critical issues facing families in their communities.

Home-Start UK is looking for new Trustees to join our established board of directors.

We are seeking a trustee who will have specific responsibilities for leadership in Wales as well as helping lead the whole organisation through its next exciting phase of development.

A strong background in organisational leadership and development will be required. Previous experience of charity work is not essential but it is important that trustees have a genuine interest in our work. We would also particularly like to hear from people with backgrounds in:

  • Financial management

  • Fundraising and income generation

  • Business & commercial development

  • Early years and family support policy, practice and/or research

  • Information technology

  • Community development

As a Trustee, you will be asked to attend 8 to 12 meetings per year in Cardiff, Leicester or London, plus a board strategy weekend every autumn. This is a voluntary role. It is not accompanied by financial remuneration but travel expenses can be claimed.

If you are interested in joining our board of Trustees, please visit our website http://www.home-start.org.uk/about_us/work_for_us or contact Roberta Bruno, HR Administrator, on 0116 258 7900 rbruno@home-start.org.uk.

Closing Date: 31st  July 2016

No agencies, please.

Home-Start UK, a charitable company limited by guarantee.  Company No. 5382181.  Charity No. in England and Wales 1108837 and in Scotland SC039172.  Registered Office: 8-10 West Walk, Leicester LE1 7NA

Home-Start is committed to Equality of Opportunity and Diversity.  We wish to encourage applications from all parts of the community irrespective of gender, race, colour, age, sexual orientation or disability.  Appointments will be based on merit, following an open and clear selection process


Ymddiriedolwyr HSUK – Cadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol Cymru

Cyflog: Rôl wirfoddol yw hon. Er nad oes taliad cydnabyddiaeth, gallwch hawlio costau teithio.

8 i 12 cyfarfod y flwyddyn yng Nghaerdydd, Caerlŷr neu Lundain, a phenwythnos y bwrdd strategol.

Home-Start UK yw un o elusennau cymorth i deuluoedd mwyaf blaenllaw Prydain, sy’n darparu hyfforddiant, gwybodaeth, cymorth ac arweiniad i rwydwaith o ganolfannau Home-Start lleol yn y DU. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, bu canolfannau Home-Start lleol yn rhoi cymorth i 33,000 o deuluoedd a 70,000 o blant a defnyddiwyd cymorth dros 16,000 o wirfoddolwyr er mwyn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r problemau mwyaf difrifol sy’n wynebu teuluoedd yn eu cymunedau.

Mae Home-Start UK yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’n bwrdd o gyfarwyddwyr.

Rydyn ni’n chwilio am ymddiriedolwr â chyfrifoldebau penodol o arwain yng Nghymru yn ogystal â helpu i arwain y sefydliad cyfan trwy’r cam datblygu cyffrous nesaf.

Mae angen rhywun â chefndir cryf mewn arwain a datblygu sefydliad. Nid yw profiad blaenorol o waith elusennol yn hanfodol, ond mae’n bwysig bod gan ymddiriedolwyr ddiddordeb gwirioneddol yn ein gwaith. Hoffem glywed hefyd gan bobl â chefndir yn y meysydd canlynol:

* Rheolaeth ariannol

* Codi arian a chreu incwm

* Datblygu busnes a masnachol

* Polisi, ymarfer a/neu ymchwil y blynyddoedd cynnar a gofal plant

* Technoleg gwybodaeth

* Datblygu cymunedol

Fel Ymddiriedolwr, bydd disgwyl i chi fynychu 8 i 12 cyfarfod y flwyddyn yng Nghaerdydd, Caerlŷr neu Lundain, yn ogystal â phenwythnos y bwrdd strategol bob hydref. Rôl wirfoddol yw hon. Does dim taliad cydnabyddiaeth, ond gallech hawlio costau teithio.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n bwrdd Ymddiriedolwyr, ewch i’n gwefan http://www.home-start.org.uk/about_us/work_for_us neu cysylltwch â Roberta Bruno, Gweinyddwr Adnoddau Dynol, ar 0116 258 7900 rbruno@home-start.org.uk.

Dyddiad cau: 31 Gorffennaf 2016

Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.

Mae Home-Start UK yn gwmni elusennol cyfyngedig dan warant. Rhif y Cwmni 5382181. Rhif elusen yng Nghymru a Lloegr 1108837 a’r Alban SC039172. Swyddfa Gofrestredig: 8-10 West Walk, Caerlŷr LE1 7NA

Mae Home-Start wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac amrywiaeth. Hoffem annog ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned waeth beth fo’ch rhywedd, hil, lliw, oed, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd. Gwneir penodiadau ar sail rhagoriaeth, yn dilyn proses ddethol glir ac agored.