Board Member Vacancies at WEN Wales/ Swyddi Gwag Aelodau Bwrdd yn RhCM Cymru

Wednesday August 12th, 2015

Would you like the opportunity to help us advance the rights of women and girls in Wales? The Women’s Equality Network (WEN) Wales is looking for two enthusiastic individuals to join our Trustees as a Secretary and a Board Member.

WEN Wales is a vibrant network of over 500 individuals and organisations committed to making Wales a safer and fairer place for women and girls. As a Trustee you will oversee the delivery of our Welsh Government funded programme of work and support the future development of our growing organisation.

We are particularly interested in hearing from individuals with skills and experience in:

  • Fundraising
  • Membership development

We would also like to encourage applications from:

  • ethnic minority communities
  • men
  • Welsh speakers

If you have drive, a strong commitment to equality, and believe that you can add value to our Board of Trustees, please send a CV and covering letter to admin@wenwales.org.uk explaining your experience, interest in WEN’s work, and what you could contribute as a Trustee. If you do not have a current CV available, we will accept a detailed letter stating your experience, interest and potential contribution.

The Board of Trustees are looking for individuals who can commit to supporting the work of WEN through regular participation in Trustee meetings. These are held bi-monthly at present, and usually take place in Cardiff. Board Members are welcome to join these meetings in person or via Skype. Travel expenses can be paid to members commuting from other parts of Wales.

The deadline for applications is 17.00 on Monday, 31st August 2015, with interviews to be held during the following week.

The new Trustees will be formally appointed at our AGM on Thursday 17th September 2015

 


 

Hoffech chi gyfle i’n helpu ni i ddatblygu hawliau menywod a merched yng Nghymru? Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru yn chwilio am ddau unigolyn brwdfrydig i ymuno â’n Hymddiriedolwyr fel Ysgrifennydd ac Aelod o’r Bwrdd.

Rhwydwaith bywiog o dros 500 o unigolion a sefydliadau sy’n ymrwymedig i wneud Cymru’n lle tecach i fenywod a merched yw RhCM Cymru. Fel ymddiriedolwr byddwch yn goruchwylio cyflwyno rhaglen o waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru a chefnogi datblygiad ein sefydliad sy’n tyfu yn y dyfodol.

Rydym â diddordeb arbennig i glywed gan unigolion â sgiliau a phrofiadau mewn:

  • Codi arian
  • Datblygu aelodaeth

Hoffem hefyd annog ceisiadau gan:

  • gymunedau lleiafrifoedd ethnig
  • dynion
  • siaradwyr Cymraeg

Os oes gennych frwdfrydedd, ymrwymiad cryf i gydraddoldeb ac yn credu y byddech yn gallu ychwanegu gwerth i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, anfonwch CV a llythyr esboniadol i admin@wenwales.org.uk gan esbonio’ch profiad, eich diddordeb yng ngwaith RhCM a’r hyn y gallech ei gyfrannu fel Ymddiriedolwr. Os nad oes gennych CV  cyfredol, byddwn yn derbyn llythyr manwl yn nodi’ch profiad, eich diddordeb a’ch cyfraniad posib.

Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn chwilio am unigolion sy’n gallu ymrwymo i gefnogi gwaith RhCM drwy gymryd rhan yn rheolaidd mewn cyfarfodydd Ymddiriedolwyr. Cynhelir y rhain ddwywaith y mis ar hyn o bryd, ac fe’u cynhelir yng Nghaerdydd fel arfer. Mae croeso i Aelodau’r Bwrdd ymuno â’r cyfarfodydd hyn yn bersonol neu drwy Skype. Gallwn dalu treuliau i aelodau sy’n cymudo o rannau eraill o Gymru.

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 17.00 ddydd Llun, 31 Awst 2015, a chynhelir y cyfweliadau yr wythnos ganlynol.

Caiff yr Ymddiriedolwyr newydd eu penodi’n ffurfiol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Iau 17 Medi 2015.