Cerdyn Sgorio Ffeministaidd

Yn 2018, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddod yn Llywodraeth Ffeministaidd. Gwnaeth RhCM Cymru ac Oxfam Cymru lunio Adroddiad Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2020, sef diweddariad ar ein hadroddiad cyntaf yn 2019, mewn ymgynghoriad â phartneriaid allweddol, i olrhain eu camau gweithredu i wella hawliau menywod.
Mae’n giplun o berfformiad Llywodraeth Cymru yn y chwe maes allweddol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Ionawr 2020 ac mae’n dangos ble mae Cymru o ran cydraddoldeb rhyw. Eleni, rydym wedi ychwanegu Iechyd fel maes allweddol newydd.
-
- Cyllid Teg
- Cyfrifoldebau Gofalu
- Hawliau Menywod Byd-eang
- Cynrychiolaeth ac Arweinyddiaeth Gyfartal
- Mynd i’r afael ag Anghydraddoldebau Iechyd Rhyw
- Rhoi Diwedd ar Drais yn erbyn Menywod a Merched
Mae’r Cerdyn Sgorio’n dangos er bod gan Lywodraeth Cymru fwriadau a deddfwriaeth wych, ac wedi gwneud peth cynnydd yn rhai o’n meysydd allweddol ers 2019, mae’n rhaid iddi nawr symud i weithredu i gyflawni ei huchelgeisiau.
Diolch yn fawr i’r canlynol: Gofalwyr Cymru; Chwarae Teg; Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW); Olwen Williams OBE; Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru (SCCC); Y Comisiynydd Plant; Cymorth i Ferched Cymru; Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru (WOAG); Llywodraeth Cymru; a Chynghrair Ffoaduriaid Cymru.
Gallwch ddarllen ein Adroddiad Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2019.