CEDAW: Bil rhyngwladol o hawliau Menywod

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod (CEDAW) yn gytuniad rhyngwladol sy’n cael ei ddisgrifio’n aml fel bil hawliau rhyngwladol i fenywod.

Gwyliwch ein ffilm fer am CEDAW a menywod yng Nghymru.

Mae 189 o wladwriaethau wedi cymeradwyo’r Confensiwn gan gynnwys Llywodraeth y DU, Cymru, yr Alban ac Iwerddon ac mae’n rhaid iddynt ddangos i’r Cenhedloedd Unedig sut maen nhw’n cydymffurfio â phob rhan o’r confensiwn.  Mae’r fideo hwn yn egluro mwy am CEDAW ac mae ein Canllaw RhCM Cymru yn eich tywys trwy bob Erthygl.

Mae RhCM Cymru wedi bod yn gweithio ar gonfensiwn CEDAW ers ein sefydliad. Rydym wedi ysgrifennu adroddiadau cysgodol a papurau briffio, ac wedi rhoi tystiolaeth i Bwyllgor CEDAW y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa, a ddefnyddir i ddwyn y DU i gyfrif.

Yn dilyn ein hymgyrchu hirsefydlog, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgorffori CEDAW yng nghyfraith Cymru. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu prosiect i sicrhau bod CEDAW yn cael ei ymgorffori’n gyflym yng nghyfraith Cymru ac i gefnogi Awdurdodau Lleol i gyflawni egwyddorion CEDAW ar lawr gwlad.