Sarah Powell is the new Chair of WEN Wales.

Dydd Mercher Gorffennaf 10th, 2019
Sarah Powell ©Steve Pope

Mae’n bleser gan RhCM Cymru gyhoeddi penodiad ei Gadeirydd newydd, sef Sarah Powell.

Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru yw Sarah lle mae wedi llywio’r sefydliad drwy gyfnod o newid a thwf sylweddol, gan arwain at sgwrs genedlaethol i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth newydd ar gyfer  chwaraeon yng Nghymru.

Yn hyrwyddwr amrywiaeth, yn ddiweddar mae wedi goruchwylio datblygiad polisi newydd ar gyfer cydraddoldeb rhyw ar Fyrddau Chwaraeon. Bydd Sarah yn dod â’i hegni, ei sgiliau arweinyddiaeth cryf, ei gallu i feddwl yn strategol a’i hymrwymiad i gydraddoldeb rhyw i RhCM Cymru.

Meddai Frances Beecher Cadeirydd Dros Dro RhCM Cymru:

‘Mae’n bleser gennym groesawu Sarah i’n bwrdd ar yr adeg bwysig hon o ddatblygiad RhCM Cymru. Wrth i ni geisio datblygu ein heffaith a’n haelodaeth, amrywio’n hariannu a chryfhau’n llywodraethu, rydym yn sicr y bydd Sarah yn ased anferthol.’

Meddai Sarah Powell:

‘Mae’n anrhydedd enfawr i fod yn Gadeirydd newydd ar RhCM Cymru – rwyf wedi fy synnu at gynnydd proffil RhCM, ymrwymiad y staff a’r ffordd y mae’r sefydliad yn herio Llywodraeth Cymru a ninnau i gyd i gynyddu ein hymdrechion i greu Cymru heb wahaniaethu ar sail rhyw.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r bwrdd, tîm y staff ac aelodau RhCM yn arbennig i sicrhau ein bod yn uno’r sector menywod yng Nghymru ac ymgyrchu dros gydraddoldeb i fenywod yng Nghymru.’