Hafan Cymru
Ynghylch
Cymdeithas dai elusennol yw Hafan Cymru sy’n cynnig tai â chymorth i menywod, ddynion, eu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Rydym yn cynnig dull holistaidd o ddarparu cymorth i fenywod, dynion a theuluoedd sydd ag ystod eang o anghenion – gan gynnwys y rheiny sy’n ddigartref, unigolion sydd wedi profi camdriniaeth ddomestig (gan gynnwys camdriniaeth gorfforol, rhywiol neu seicolegol); unigolion sy’n gwella o’u problemau iechyd meddwl, unigolion sydd â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau, a chyn-droseddwyr. Ein nod yw sicrhau y gall ein cleientiaid gynnal eu hunain mewn cartref annibynnol yn y gymuned.
Mae ein cynlluniau’n amrywio o ran eu natur. Gallwn ddarparu tai â chymorth, cymorth yn eich cartref eich hun, lloches, ac amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni. Ymhob achos, anogir y rheiny yr ydym yn eu cefnogi i helpu eu hunain a dysgu sgiliau byw newydd. Mae pob unigolyn a gefnogir yn cael pecyn cymorth wedi’i deilwra ar ei gyfer er mwyn diwallu ei anghenion, ac mae hyn yn galluogi pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sy’n ofynnol i fod yn annibynnol oddi ar wasanaethau. Mae ein prosiect Symud Ymlaen yn darparu mynediad at hyfforddiant, addysg a chyflogaeth.