Cwotâu: y myth a’r realiti

Friday February 18th, 2022

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn gweithredu cwotâu cyfreithiol fel rhan o’u cytundeb cydweithio.

Roedd RhCM Cymru a’r 21 o sefydliadau sy’n cefnogi’r Ymgyrch 5050 Amrywiol wrth eu bodd bod ein gwaith caled a’n hymgyrchu dros y tair blynedd diwethaf wedi talu’r ffordd. Rydym yn credu bod angen i gynrychiolaeth amrywiol a chyfartal gael ei ymgorffori’n gyfreithiol i’n system etholiadol ac mae’r ymrwymiad i gwotâu rhywedd yn gam hanesyddol tuag at gyflawni hyn.

Er gwaethaf effeithiolrwydd profedig cwotâu wrth gynyddu cynrychiolaeth menywod, nid yw pawb yn cefnogi eu defnydd. Yma rydym yn esbonio rhai o’r mythau cyffredin ynghylch cwotâu.

 

“Dylai pobl gael eu hethol ar eu teilyngdod eu hunain”

Nid yw ein cymdeithas gyfredol yn deg ac nid ydym yn byw mewn meritocratiaeth. Gall menywod mewn grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli wynebu sawl rhwystr cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Nid yw’r grwpiau hynny sy’n dominyddu’n draddodiadol yn y byd gwleidyddol, megis dynion gwyn dosbarth canol, yn profi’r rhain i’r un graddau. Er enghraifft, mae menywod yn dal i ddioddef y rhan fwyaf o ofal di-dâl a gwaith domestig ac yn ennill llai o arian na dynion. Mae pobl anabl yn wynebu nifer o rwystrau ychwanegol i gyrraedd swydd etholedig oherwydd diffyg llety, trafnidiaeth, cymorth i gyfathrebu neu gyfarpar.

Mae ymchwil ar duedd oblygedig yn dangos bod llawer o bobl, gan gynnwys y rheiny sy’n ymrwymedig i gydraddoldeb, yn meddu ar ymagweddau negyddol anymwybodol a stereoteipiau tuag at fenywod neu bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae menywod, pobl anabl, pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl LGBTQ+ mewn mwy o berygl o gael eu targedu gan gamdriniaeth ar-lein ac oddi ar-lein. Caiff llawer o’r problemau hyn eu gwaethygu i bobl â hunaniaethau rhyngdoriadol, megis menywod Du.

Mae’r syniad bod cwotâu yn bygwth teilyngdod yn tybio bod ymgeiswyr sy’n cael eu hethol drwy gwotâu yn debygol o fod yn llai cymwys nag eraill. Ond nid dyma yw’r achos. Mae ymchwil ar Dŷ’r Cyffredin y DU yn awgrymu bod menywod sy’n cael eu hethol drwy Restrau Byr Menywod (ffurf ar gwota pleidiau gwirfoddol a ddefnyddir ym Mhlaid Lafur y DU) fel arfer yn fwy profiadol na’u cydweithwyr gwrywaidd.

Mae’r holl ffactorau hyn yn golygu nad yw pobl yn cael eu hethol ar deilyngdod yn unig yn ein cymdeithas. I rai grwpiau, mae llawer yn haws dod o hyd i’r amser, yr arian a’r hyder i sefyll mewn etholiad nag eraill. Mae ymgeiswyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli’n cael eu dal yn ôl, hyd yn oed os ydynt yn fwy cymwys.

Dylai cwotâu gael eu hystyried fel offeryn i dorri rhai o’r rhwystrau sy’n atal menywod, pobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl o’r gymuned LGBTQ+ rhag dod yn wleidyddion. Gall cwotâu ein helpu i ddatblygu tuag at feritocratiaeth, yn hytrach na bod yn rhwystr iddi.

 

“Mae cwotâu yn nawddoglyd”

Mae rhai pobl yn credu bod defnyddio cwotâu ar gyfer grwpiau penodol yn awgrymu bod yr ymgeiswyr hyn yn llai galluog a bod angen ‘cymorth ychwanegol’ arnynt i gyrraedd swydd etholedig. Ond mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae cwotâu’n cael eu defnyddio oherwydd rydym yn cydnabod bod gan yr ymgeiswyr hyn amser mwy caled yn cyrraedd swyddi etholedig, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain oherwydd anghydraddoldeb a rhwystrau cymdeithasol. Mae cwotâu’n ffordd o gydnabod yr anfantais annheg y mae’r ymgeiswyr hyn yn eu hwynebu a mynd i’r afael â hwy.

 

“Mae cwotâu’n gwahaniaethu yn erbyn grwpiau dominyddol – e.e. mae cwotâu rhywedd yn gwahaniaethu yn erbyn dynion”

Am y rhesymau niferus y soniwyd amdanynt uchod, rydym yn gwybod bod yr arferol yn gwahaniaethu yn erbyn menywod a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli – mewn ffordd sy’n estyn llawer yn bellach nag y mae cwotâu yn gwahaniaethu yn erbyn y grwpiau hynny sydd dan anfantais yn draddodiadol.

Caiff hyn ei adlewyrchu yn y diffyg amrywiaeth o ran y bobl sy’n cael eu hethol i’n cynrychioli. Er yr oedd gan y Senedd gydraddoldeb rhywedd yn 2003, mae ffigurau wedi gostwng i 43% a’r tu ôl i’r Alban am y tro cyntaf ers datganoli. Yn y Llywodraeth Leol yng Nghymru, mae menywod yn cyfrif am 28% yn unig o Gynghorwyr Sir ac ar y gyfradd newid gyfredol, ni fyddwn yn gweld cydbwysedd rhywedd yng nghynghorau Cymru cyn 2073.

Mae pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cyfrif am 1.8% o Gynghorwyr Sir a 1.2% o Gynghorwyr Cymuned, o gymharu â 5.6% o’r boblogaeth genedlaethol. Gwnaeth gymryd 22 o flynyddoedd i ethol y fenyw gyntaf o leiafrifoedd ethnig i’r Senedd. Mae 18% o Gynghorwyr Sir yn dweud eu bod yn anabl, o gymharu â 22% o’r boblogaeth yng Nghymru ac nid oes digon o ddata dibynadwy gennym ar nifer yr ymgeiswyr anabl yn y Senedd.

Nid yw cwotâu’n anghydbwyso’r glorian i’r ffordd arall ond maent yn gam effeithiol tuag at godi’r gwastad.

 

“Ni fydd cwotâu’n mynd i’r afael â gwraidd y broblem”

Mae yna lawer o rwystrau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sy’n atal menywod ac unigolion o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli rhag sicrhau swyddi etholedig. Mae’r rhwystrau hyn yn symptom o anghydraddoldeb hanesyddol yn ein cymdeithas. Nid yw’r newid y mae ei angen i’w diddymu’n mynd i ddigwydd dros nos drwy gyflwyno cwotâu. Rydym yn gwybod bod angen i ni barhau i frwydro ar draws sawl maes i gyflawni hyn a dyna pam mae’r cynllun mentora Llais Cyfwerth, Pŵer Cyfwerth mor bwysig wrth greu cyfle i fenywod a’r rheiny o’r holl nodweddion gwarchodedig sefyll, fel y mae ein holl waith yn RhCM ynghylch cymorth gofal plant a gwaredu ar gamdriniaeth ar-lein.

Ond rydym hefyd yn gwybod mai cwotâu rhywedd yw’r offeryn unigol mwyaf effeithiol ar gyfer cynyddu cynrychiolaeth menywod. Gellir disgwyl i gwotâu gael yr un effeithiau cadarnhaol ar gyfer grwpiau eraill os ydynt yn cael eu dylunio’n ofalus i ystyried gwahaniaethu rhyngdoriadol a sicrhau bod yr amrywiaeth llawn o amrywiaeth yn cael ei gynrychioli. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth yn arwain at wneud penderfyniadau gwell. Gall cwotâu ein helpu i sicrhau bod penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu llywio’n drwyadl gan safbwyntiau a phrofiadau byw pobl â hunaniaethau rhyngdoriadol.

Yn ôl ymchwil sy’n dadansoddi effaith cwotâu rhywedd mewn seneddau ym mhedwar ban byd, gall cwotâu gael effaith gadarnhaol ar bolisi a materion sy’n ymwneud ag iechyd menywod, trais yn erbyn menywod, gofal plant a hawliau atgynhyrchu. Mae hefyd yn dangos bod cwotâu rhywedd yn arwain at fwy yn cael ei wneud i fynd i’r afael â thlodi, trais yn erbyn menywod ac iechyd cyhoeddus. Mae’r rhain i gyd yn flaenoriaethau allweddol i’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, yn enwedig wrth i ni geisio adfer ar ôl y pandemig.

Felly, mae cwotâu’n mynd i’r afael â gwraidd y broblem a’r symptom. Mae eu pŵer yn mynd y tu hwnt i gynrychiolaeth gyfartal i newid canlyniadau gwirioneddol ein gwleidyddiaeth. Maent yn cael effaith go iawn ar fywydau pobl ar lawr gwlad a gallant fod yn gatalydd ar gyfer newid cymdeithasol tymor hir y mae angen mor ddirfawr arno.

 

Mae’n annemocrataidd gorfodi cwotâu – dylai’r etholaeth barhau

Democratiaeth yw cynrychioli lleisiau pawb, ond yn ein system gyfredol nid yw lleisiau pobl yn cael eu cynrychioli’n gyfartal oherwydd bod llawer o grwpiau’n parhau i gael eu tangynrychioli. Mae cwotâu’n arwain at ethol arweinwyr gwleidyddol sy’n adlewyrchu’r cymunedau amrywiol maent yn eu gwasanaethu ac yn gallu sicrhau bod eu safbwyntiau a’u profiadau byw’n dod i’r bwrdd penderfyniadau.

Mae democratiaeth yn gofyn y gall pobl bleidleisio dros yr ymgeiswyr o’u dewis, a phwy maent yn meddwl sy’n gallu cynrychioli eu buddion a buddion eu cymunedau orau. Mae’r diffyg ymgeiswyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli’n golygu ar hyn o bryd nad dyma yw’r achos. Mae 43% o boblogaethau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn teimlo fel nad oes digon o fodelau rôl mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol. Efallai fod yn well gennyf gael fy nghynrychioli gan fenyw, ond mae’r siawns o hyn yn digwydd yn fach iawn os nad oes unrhyw ymgeiswyr benywaidd mewn seddi y mae modd eu hennill yn fy etholaeth. Nid oes tystiolaeth o duedd pleidleiswyr yn erbyn menywod, ond mae yna ddiffyg ymgeiswyr benywaidd.

Mae’r syniad bod cwotâu’n annemocrataidd hefyd yn cael ei wrth-ddweud gan ba mor boblogaidd ydynt. Defnyddir cwotâu rhywedd bellach mewn mwy na 100 o wledydd ym mhedwar ban byd ac mae nifer cynyddol o wledydd hefyd yn eu defnyddio ar gyfer grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli, megis lleiafrifoedd ethnig, pobl ifanc neu bobl anabl. Gwnaeth cynulliad dinasyddion yn Iwerddon bleidleisio 80% o blaid cwotâu. Yn ôl arolwg diweddar yn y Western Mail, mae yna gefnogaeth gyhoeddus eang ar gyfer diwygio etholiadol i sicrhau cydraddoldeb rhywedd yn y Senedd. Mae hyn yn arbennig o gryf ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gyda 58% o bobl 16-34 oed o blaid o gymharu â 46% o bobl 35-54 oed.

Yn groes i fod yn annemocrataidd, gall cwotâu ein helpu i gryfhau ein democratiaeth yng Nghymru a gwneud lle i’r rheiny sydd wedi’u tangynrychioli yn y byd gwleidyddol ar hyn o bryd.

Ymunwch â RhCM Cymru i gefnogi ein gwaith.

Darllenwch ein papur briffio ynghylch cwotâu amrywiaeth.