Amodau a Thelerau Aelodaeth
Mae’r ddogfen hon yn nodi amodau a thelerau aelodaeth RhCM Cymru.
Ein gweledigaeth
Gweledigaeth RhCM Cymru yw Cymru heb wahaniaethu ar sail rhyw, lle mae gan
fenywod a dynion awdurdod a chyfle cyfartal i lunio’r gymdeithas a’u bywydau eu
hunain.
Drwy gofrestru i fod yn aelod, rydych yn cytuno i gefnogi’r weledigaeth hon.
Amseru
Ar ddiwedd y flwyddyn, caiff eich aelodaeth ei hadnewyddu’n awtomatig, oni bai eich od
yn gofyn i ganslo’ch ffi aelodaeth cyn 31 Mawrth.
Mae ein blwyddyn aelodaeth yn rhedeg o 1 Ebrill tan 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.
Manteision
Mae aelodaeth yn rhoi’r manteision a nodir isod.
Cysylltu
Bod yn rhan o rwydwaith aelodaeth mawr, amrywiol a bywiog lle gallwn gysylltu
ag eraill
Manteision sefydliadol:
- Gosod eich hysbysebion swydd, eich digwyddiadau a’ch newyddion yn ein
cylchlythyr misol - Cael eich rhestru fel aelod sefydliadol ar ein gwefan
- Cyfle i fod yn bartner gyda ni ar ein hymgyrchoedd a’n gwaith polisi
- Y gallu i arddangos logo RhCM are ich gwefan i ddangos eich bod yn cefnogi
cydraddoldeb rhyw
Dylanwadu
- Bwydo’n uniongyrchol i ddylanwadu ar drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru,
gan lunio ffurfio a gweithredu polisïau
Cyngor a chefnogaeth
- Derbyn ein cylchlythyr misol sy’n llawn newyddion a digwyddiadau ar
gydraddoldeb rhyw - Mynediad i’n hadroddiadau a’n hymchwil yn ogystal â’n tîm arbenigo
Digwyddiadau
- Blaenoriaeth o ran cadw lle ar ddigwyddiadau a lansiadau
- Gwahoddiad i’n CCB blynyddol a phleidleisio ynddo
Ymuno â RhCM Cymru
Aelodau Sefydliadol
Pan fyddwch yn cyflwyno cais aelodaeth sefydliadol i ymuno â Rhwydwaith
Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru, caiff ei hadolygu gan RhCM ac mae modd i ni
ofyn am fwy o wybodaeth os oes angen. Yna byddwn yn gofyn i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr
asesu eich cais. Caiff y Bwrdd ei ethol gan aelodau RhCM.
Os yw’r Bwrdd yn cymeradwyo’ch cais, yna byddwch yn aelod ffurfiol o RhCM Cymru a
chaiff enw a logo eich sefydliad gael eu lanlwytho i wefan RhCM Cymru.
Yna byddwch yn derbyn logo RhCM Cymru ar gyfer eich gwefan i ddangos cefnogaeth
dros gydraddoldeb rhyw yng Nghymru.
Aelodau Unigol
Unwaith y byddwch wedi llenwi eich ffurflen aelodaeth unigol, byddwch yn derbyn e-
bost awtomatig yn eich diolch am ymuno. Yna byddwch yn awtomatig yn aelod o RhCM
Cymru a byddwch yn dechrau derbyn ein cylchlythyrau misol, gwahoddiadau i
ddigwyddiadau ac ati.
Newid Manylion
Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i RhCM Cymru drwy e-bostio
admin@wenwales.org.uk os yw eich manylion wedi newid.