Ymddiriedolwyr
Mae ymddiriedolwyr RhCM Cymru yn cael eu hethol am gyfnodau o dair blynedd, a gallant sefyll am ail dymor os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Mae’r ymddiriedolwyr yn rhan o’n Pwyllgor Rheoli, sy’n gyfrifol am ddatblygiad strategol a llywodraethu ein sefydliad.
-
Sarah Powell
CadeiryddMae Sarah yn chwaraewraig Gymreig frwd ac yn Brif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru gan ddechrau ar ei rôl yn 2013. Hi yw’r fenyw gyntaf i ddal y swydd yn y sefydliad.
Gan dderbyn ei haddysg yn Ysgol Gyfun Porthcawl, aeth Sarah ymlaen i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe cyn ennill cymhwyster addysgu TAR o UWIC. Mae Sarah wedi meddu ar sawl rôl fwrdd – Ryder Cup Wales Limited, Cyngor Gemau Cymanwlad Cymru ac mae’n aelod o grŵp Chwaraeon Cenhedloedd y DU a Chwaraeon y DU.
Mae Sarah yn ymrwymedig i uno’r sector menywod yng Nghymru, dan ymbarél RhCM ac ymgyrchu dros gydraddoldeb i fenywod yng Nghymru.
-
Alison Williams
TrysoryddMae gan Alison brofiad dros 33 o flynyddoedd yn gweithio yn yr awdurdod lleol, y gymdeithas tai a’r sector elusennol gan ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol. Mae wedi ennill ei phrofiad o’r gwaelod gan symud i fyny i lefel uwch-reolwr yn y sectorau gofal cymdeithasol a thai cymdeithasol.
Mae’n gweithio fel Cyfarwyddwr Grŵp y Gwasanaethau Corfforaethol yng Ngrŵp Tai Cymunedol Cynon Taf ac mae’n gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a chyflwyno’r cynllun strategol a’r weledigaeth grŵp gyffredinol.
Mae bod yn Gyfrifydd Ardystiedig cymwys yn cyflwyno arbenigedd, gwybodaeth a chraffu ariannol sy’n helpu RhCM i gyflawni a chynnal cynaladwyedd ariannol strategol.
-
Rhian Davies
YmddiriedolwrMae Rhian wedi bod yn Brif Weithredwr ar Anabledd Cymru ers 2001 ac mae’n eiriolwr tymor hir hawliau a chydraddoldeb pobl anabl. Mae wedi arwain ar ddatblygiadau gan gynnwys Hyfforddiant Cydraddoldeb i Bobl Anabl, Taliadau Uniongyrchol a Throsedd Casineb yn erbyn Pobl Anabl. Rhian yw Cadeirydd Grŵp Llywio Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith ar Fyw’n Annibynnol. Yn ddiweddar, gwnaeth roi tystiolaeth i Bwyllgor y CU ar Hawliau Pobl Anabl yn Geneva.
Fel ymddiriedolwr, mae Rhian yn cyfrannu’n weithredol at wella proffil RhCM fel y corff cydraddoldeb rhyw arweiniol yng Nghymru a datblygu ei agenda i gyflawni grymusedd a chydraddoldeb yr holl fenywod a merched ym mywyd corfforaethol a sifil.
-
Ruth Fowler
YmddiriedolwrGwnaeth Ruth astudio Llenyddiaeth Saesneg gydag Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth a dechreuodd ei gyrfa yn adran y Gymraeg y brifysgol yn 2010. Ruth yw Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Adran Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â Chadeirydd y Rhwydwaith LGBT. Hi hefyd yw cyd-drefnydd
Aberration, digwyddiad celfyddydau LGBT yng nghanolbarth Cymru.Yn 2018, cyrhaeddodd Ruth 100 o bobl LGBT mwyaf dylanwadol Cymru Rhestr Binc Cymru. Mae Ruth wedi dyweddïo ag Amy Daniel, gwneuthurwr ffilmiau arobryn ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl sy’n mwynhau gweithio a byw yng Nghymru.
-
Joy Kent
YmddiriedolwrGwnaeth Joy sefydlu ei busnes ei hun ym mis Ionawr 2017 i helpu unigolion, timau a sefydliadau i nodi ac adeiladu ar eu cryfderau i gyflwyno prosiectau a chyflawni nodau personol. Cyn hyn, roedd hi’n Brif Weithredwr ar Chwarae Teg ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cymorth Cymru. Mae hefyd wedi gweithio i ddatblygu polisïau yn Llywodraeth
Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Sefydliad Siartredig Tai Cymru.Hi yw Cadeirydd Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf ac yn aelod bwrdd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Mae Joy yn gymrawd RSA a chydnabuwyd ei chyfraniad at yr agenda gydraddoldeb yn 2016 gyda Chymrodoriaeth Anrhydeddus o Brifysgol Glyndŵr.
-
Wanjiku Mbugua
YmddiriedolwrWanjiku yw Rheolwr Rhanbarthol Bawso Gogledd Cymru gyda dros 14 mlynedd o brofiad yn arwain gwasanaethau cam-drin domestig Bawso, ar ôl cychwyn y prosiect yng Ngogledd Cymru yn 2006.
Mae Wanjiku yn cynrychioli anghenion teuluoedd BAME i lunwyr polisi ar lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ynghyd â chynnig lloches ddiogel, ymyrraeth argyfwng, eiriolaeth, a rhaglenni addysg ac atal ar gyfer teuluoedd BME sy’n wynebu cam-drin domestig yng Ngogledd Cymru.
Mae Wanjiku yn aelod o fwrdd Bregusrwydd a Camfanteisio Gogledd Cymru lle mae’n cynrychioli’r 3ydd sector ar anghenion dioddefwyr a gwaith Caethwasiaeth yr Oes Fodern yng Nghymru.
-
Maria Constanza Mesa
YmddiriedolwrMaria yw Cyfarwyddwr Women Connect First a’i nod yw grymuso a chreu arweinyddiaeth ymhlith menywod BME yng Nghymru. Daeth Maria i Gymru o Golombia fel ffoadur gwleidyddol ym 1978. Dros y 35 mlynedd diwethaf, mae Maria wedi bod yn weithredol wrth gymryd rhan yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan ddatblygu sefydliadau, prosiectau a gwasanaethau arloesol sy’n ymateb i anghenion cymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig.
Ymhlith eraill, mae’n aelod sylfaenol o Black Association of Women Step Out (Cymorth Menywod BAWSO), prosiect iechyd meddwl AWETU, Multicultural Crossroads, a Rhwydwaith y Sector Gwirfoddol Du yng Nghymru (BVSNW) ac enwi ond ychydig.
-
Kerry-Lynne Pyke
YmddiriedolwrDechreuodd Kerry-Lynne ei gyrfa newyddiaduriaeth yn 2007 yn y Glamorgan Gazette cyn ymuno â Gwasanaeth Newyddion Cymru lle gwnaeth ysgrifennu mewn cylchgronau prynwyr a phapurau newydd cenedlaethol. Yna symudodd i’r maes PR a Chyfathrebu yn 2009 lle gwnaeth ymuno â Diabetes UK Cymru gan arwain eu PR a’u cyfathrebu a sefydlu
presenoldeb cyfryngau cymdeithasol yr elusen. Fe’i henwyd yn un o 29 o weithwyr
proffesiynol PR mwyaf dawnus dan 29 oed Wythnos PR.Yn 2013, ymunodd Kerry-Lynne â Chymorth Canser Macmillan yn gweithio mewn PR, y cyfryngau cymdeithasol a marchnata ac mae bellach yn Uwch-reolwr Cyfathrebu Allanol yr elusen yng Nghymru ac yn eistedd ar dîm arweinyddiaeth Cymru. Daeth Kerry-Lynne yn ymddiriedolwr yn 2018 ar ôl cwblhau cynllun mentora RhCM Cymru.
-
Tania Silva
YmddiriedolwrMae Tania yn arwain Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru ar ran chwech Awdurdod Lleol Gogledd Cymru. Mae’r Bartneriaeth yn galluogi timau sector cyhoeddus o nifer o sefydliadau i gyflawni prosiectau adeiladu mawr ar y cyd ar draws y rhanbarth, gan ymgorffori polisïau rhanbarthol a chenedlaethol a mentrau arloesol er mwyn sbarduno newid.
Mae’r bartneriaeth wedi’i chydnabod trwy nifer o wobrau am ei dull arloesol.
Mae Tania wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau trwy Werth Cymdeithasol, cymryd rhan mewn rhaglenni i gael menywod i mewn i bynciau STEM ac i ddilyn gyrfaoedd adeiladu, creu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i unigolion o grwpiau difreintiedig ac ymgysylltu â chymunedau i ddeall eu dymuniadau a’u hanghenion er mwyn creu cymunedau cydnerth.
-
Lowri Walters
YmddiriedolwrMae Lowri yn awyddus i gymryd rhan yn y gwaith y mae RhCM yn ei wneud i rymuso menywod, ac i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb rhywiol a’r gwahaniaethu sy’n bodoli yng nghymdeithas heddiw.
Mae gan Lowri radd Seicoleg o Brifysgol Caerwysg, yn ogystal â Diploma Graddedig yn y Gyfraith o Brifysgol Abertawe. Cymhwysodd Lowri fel cyfreithiwr yn 2017. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Cyfreithiwr Teulu mewn cwmni cyfreithiol yn Abertawe.
Mae Lowri yn gyd-sylfaenydd UBI Lab Abertawe, sefydliad dielw sy’n gweithio tuag at sicrhau Peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn Abertawe. Mae ganddi hefyd le ar Bwyllgor Lab Cymru UBI ac mae’n aelod o UBI Lab Womxn. Ei chred yw y byddai Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn grymuso menywod, gan agor mwy o gyfleoedd a sicrhau rhyddid ac annibyniaeth bellach i fenywod.
Ar ôl mynychu Ysgol Gyfun Gwyr, mae Lowri yn siaradwr Cymraeg rhugl.